Mae Arthritis Rhiwmatoid (RA) yn gyflwr awtoimiwnedd, sy’n golygu bod system imiwnedd y corff yn ymosod ar feinwe iach. Mae hyn fel arfer yn effeithio ar y cymalau, y cyhyrau, y gewynnau a meinwe feddal. Mae’n gyflwr llidiol sy’n cael ei nodweddu gan boen, chwyddo a gwendid. Gall effeithio ar unrhyw ran o’r corff, ond fel arfer mae’n dechrau yng nghymalau bach y dwylo a/neu’r traed. Mae Arthritis Rhiwmatoid yn aml yn effeithio ar ddwy ochr y corff yn yr un ffordd, ond nid yw hyn bob amser yn wir.