Therapi Galwedigaethol mewn Rhiwmatoleg
Beth yw Rhiwmatoleg?
Rhiwmatoleg yw’r rhan o Ofal Iechyd sy’n helpu pobl gyda phroblemau yn ymwneud â’r cyhyrau, y cymalau a’r esgyrn. Mae’r rhain yn gallu cael eu hachosi gan broblemau gyda’r system imiwnedd, llid, haint neu ddirywiad. Mae meinweoedd meddal, cymalau, cartilag esgyrn, tendonau, gewynnau a chyhyrau yn gallu cael eu heffeithio.
Y cyflyrau mwyaf cyffredin sy’n cael eu gweld mewn Rhiwmatoleg yw Osteoarthritis, Arthritis Rhiwmatoid , Arthritis Psoriatig a Spondylitis Ankylosing.
Beth mae Therapyddion Galwedigaethol Rhiwmatoleg yn ei wneud?
Nod Therapi Galwedigaethol mewn Rhiwmatoleg yw gweithio ochr yn ochr â phobl i’w helpu i reoli eu gweithgareddau bob dydd boed hynny ar gyfer gwaith, y cartref, gofal personol neu hamdden. Rydyn ni’n gallu eich helpu i addasu i newidiadau yn eich bywyd, er mwyn atal colli gweithrediad a gwella neu gynnal eich lles.
Ein nod yw eich cefnogi i gynnal neu wella gweithrediad eich dwylo trwy gyngor gofal ar y cyd, ymarfer corff a sblintio.
Rydyn ni’n gallu eich helpu i ddod o hyd i ffyrdd gwell o wneud pethau sy’n lleihau unrhyw symptomau ac atal anafiadau pellach neu anabledd a’ch cefnogi i reoli eich blinder, poen a hwyliau hefyd.
Mae ein Therapyddion Galwedigaethol wedi cynhyrchu cyfres o fideos gydag awgrymiadau ac egwyddorion am sut i reoli tasgau bob dydd fel torri llysiau ac agor jariau, gan warchod eich cymalau.
Cliciwch ar y dolenni isod er mwyn gweld y rhain.

Ydw i’n gallu cyfeirio fy hunan at wasanaeth Therapi Galwedigaethol Rhiwmatoleg?
Mae Rhiwmatolegwyr Ymgynghorol a nyrsys Rhiwmatoleg Arbenigol Glinigol yn gallu cyfeirio cleifion at ein gwasanaeth.
Mae’r Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol Rhiwmatoleg wedi’i leoli yn Ysbyty Athrofaol Llandochau.