Pan fyddwch chi’n dioddef o flinder, neu gymalau poenus neu anystwyth, mae’n gallu bod yn anodd gwneud tasgau bob dydd. Efallai na fyddwch chi’n gallu plygu neu symud cymal yn iawn, neu efallai does dim egni gyda chi i wneud y pethau hyn. Efallai bydd eich cryfder a’ch gafael yn wan.
Mae’r fideos canlynol yn dangos sut y gallwch chi wneud pethau’n wahanol neu ddefnyddio teclyn i’ch helpu i reoli eich tasgau bob dydd yn haws.
Mae ein tîm o Therapyddion Galwedigaethol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi creu fideos i’ch helpu chi i ddiogelu eich cymalau wrth i chi wneud tasgau bob dydd.
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.