Cadw Fi'n Iach - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Croeso i Cadw Fi’n Iach, eich gwefan iechyd a lles.

Beth yw Cadw Fi’n Iach?

Dyluniwyd Cadw Fi’n Iach gan glinigwyr a defnyddwyr gwasanaeth o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Bydd y wybodaeth ar y wefan hon yn helpu i gefnogi eich iechyd a’ch lles — p’un a ydych chi’n paratoi ar gyfer triniaeth, yn gwella ar ôl triniaeth, yn rheoli cyflwr hirdymor neu’n awyddus i fyw bywyd iachach a mwy egnïol.

Play Video about Keeping Me Well characters and icons
P’un a oes gennych symptomau newydd, angen rheoli cyflwr parhaus neu baratoi eich hun ar gyfer llawdriniaeth neu driniaeth canser sydd ar y gweill, mae gennym ddigon o wybodaeth ac adnoddau i helpu.
Datblygwyd Cadw Fi’n Iach gan dîm o weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n arbenigo mewn gwahanol wasanaethau therapi. Rhagor o wybodaeth am y gwahanol wasanaethau a chymorth sydd ar gael.

Dewch o hyd i gyngor i’ch helpu i ofalu am eich plentyn, p’un a yw hynny gartref drwy hunanofal neu gyda chymorth un o’n gwasanaethau. Mae hefyd gennym ragor o wybodaeth am salwch a chyflyrau cyffredin.

Os ydych chi’n gwella ar ôl COVID-19, yn dioddef o symptomau neu’n chwilio am gyngor ar sut i amddiffyn eich hun a’ch teulu, mae gennym wybodaeth i’ch helpu i gadw eich hun yn iach.
Mae llawer o fanteision i fyw bywyd iach a dyma’r peth pwysicaf y gallwn ei wneud i gefnogi ein hiechyd a’n lles a lleihau’r risg o ddatblygu cyflyrau iechyd. Dysgwch sut y gallwch chi fyw’n dda.

Digwyddiadau Cymunedol

Noder fod yr adnodd gwybodaeth hwn yn ganllaw, ac ni ddylid ei ddefnyddio yn lle unrhyw gyngor unigol y gallech fod wedi’i dderbyn gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol. Os oes gennych bryderon am eich cyflwr, cysylltwch â’ch ymarferydd gofal iechyd neu eich meddyg teulu. Mae cyngor ar ba wasanaeth iechyd i gysylltu ag ef ar gael ar wefan GIG 111 Cymru. Am ofal brys, ffoniwch 999 bob amser.

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content