Paratoi ar gyfer Triniaeth ac Adferiad Canser
Gall canser a’i driniaethau effeithio’n sylweddol ar eich gallu i wneud gweithgareddau dyddiol arferol. Mae bwyta ac yfed, symud o gwmpas a gwneud y pethau rydych chi’n eu mwynhau yn gallu mynd yn anoddach.
Mae adsefydlu canser yn eich helpu i gynnal ac adfer eich llesiant corfforol ac emosiynol. Mae’n rhan greiddiol o ofal canser ac yn eich helpu i wneud y gorau o’ch bywyd trwy:
- Eich paratoi ar gyfer triniaeth
- Amlhau canlyniadau’r driniaeth
- Lleihau’r sgileffeithiau sy’n gysylltiedig â thriniaeth fel colli pwysau, blinder a cholli anadl
Gall adsefydlu canser eich helpu hefyd gyda’r problemau o ddydd i ddydd sy’n cael eu hachosi gan y clefyd a’r driniaeth. Mae’n eich helpu i fod yn annibynnol a bod yn llai dibynnol ar deulu, ffrindiau a gwasanaethau cymorth, cyn belled ag y bo modd, ac yn eich helpu i wella ac aros yn iach.
Os ydych chi neu aelod o’ch teulu wedi gwella o ganser neu’n gwella ohono, gallwch ddefnyddio’r wybodaeth yn yr adrannau canlynol er mwyn eich helpu i wella ansawdd eich bywyd.
Os ydych chi wedi cael diagnosis o ganser, mae’n bwysig paratoi ar gyfer unrhyw driniaeth bosibl o flaen llaw. Mae tystiolaeth yn dangos bod rhoi sylw i’ch maeth, eich lefelau gweithgarwch a’ch llesiant yn dod â llawer o fanteision pwysig megis:
- Eich helpu i gymryd rheolaeth yn ystod cyfnodau o ansicrwydd.
- Eich gwneud yn llai agored i sgileffeithiau triniaeth sy’n eich galluogi i ymdopi’n well ac adfer yn gynt.
- Gwella eich iechyd tymor hir ac ansawdd eich bywyd.
Mae rhagor o wybodaeth ar baratoi am driniaeth (rhagsefydlu) ar gael yma.
Gall adsefydlu canser yn ystod eich triniaeth (e.e. llawdriniaeth, cemotherapi, radiotherapi) eich helpu i reoli a lleihau sgileffeithiau’r driniaeth. Mae hefyd yn eich helpu i gymryd mwy o ran yn eich gofal a’ch adferiad.
Gall y rhaglen Gwella Adferiad ar ôl Llawdriniaeth (ERAS) eich helpu i fyw yn dda a gwella’n gyflymach yn dilyn llawdriniaeth canser.
Yn dilyn triniaeth canser mae’n bwysig eich bod yn cael cymorth i fyw yn dda a dal ati gyda’ch bywyd. Bydd angen cymorth a help ar rai pobl i reoli effeithiau corfforol a seicolegol canser, tra bydd angen i eraill wneud newidiadau iechyd cadarnhaol i leihau’r siawns y bydd canser yn digwydd eto ac i fyw bywyd iachach.
Hefyd yn yr adran hon
Cymorth pellach:
Nod y cyngor ar y tudalennau hyn yw eich helpu i baratoi ar gyfer y driniaeth sydd o’ch blaen a’ch cefnogi tuag at adferiad.
Os oes angen rhagor o gyngor a chymorth arnoch, trafodwch hyn gyda’ch gweithiwr allweddol neu eich gweithiwr gofal iechyd proffesiynol.
- Cymorth Canser Macmillan:
0808 808 00 00 - Maggie’s Caerdydd:
029 2240 8024 - Gofal Canser Tenovus:
0808 808 1010