Mae ymarfer corff yn fath o weithgaredd corfforol; yr hyn sy’n ei osod ar wahân yw ei fod wedi’i strwythuro a bod ganddo nod penodol.
Mae ymarfer corff yn rhan bwysig o weithgarwch corfforol a gall helpu gyda rheoli tasgau a swyddogaethau dyddiol, fel mynd i fyny ac i lawr y grisiau neu chwarae gyda phlant neu wyrion ac wyresau.
Mae iddo lawer o ffurfiau; un ffordd o strwythuro eich trefn ymarfer corff yw meddwl FITT (Amlder, Dwysedd, Amser a Math).
Bydd y math o ymarfer corff y byddwch yn dewis ei wneud yn dibynnu ar y nod yr ydych yn gweithio tuag ato. Er enghraifft, os yw cerdded i fyny ac i lawr y grisiau yn broblem benodol yna efallai y byddwch am weithio ar gryfhau breichiau a choesau a dygnwch.
Mae’n bwysig bod gennych ryw ffordd o gofnodi neu fesur eich trefn ymarfer corff, mae hyn yn eich helpu i wybod faint rydych wedi’i wneud ac a fu unrhyw welliant.
Nid yw byth yn rhy hwyr i ddechrau ymarfer corff, fodd bynnag gall fod yn broses anodd. Os ydych yn ei chael hi’n anodd cael trefn ymarfer corff yna gallwch siarad â’r tîm Cyn-sefydlu am hyn a byddwn yn eich cefnogi yn hyn o beth. Bydd y math o ymarfer corff y byddwch yn dewis ei wneud yn dibynnu ar y nod yr ydych yn gweithio tuag ato. Er enghraifft, os yw cerdded i fyny ac i lawr y grisiau yn broblem benodol yna efallai y byddwch am weithio ar gryfhau breichiau a choesau a dygnwch.
Mae’n bwysig bod gennych ryw ffordd o gofnodi neu fesur eich trefn ymarfer corff, mae hyn yn eich helpu i wybod faint rydych wedi’i wneud ac a fu unrhyw welliant.
Nid yw byth yn rhy hwyr i ddechrau ymarfer corff, fodd bynnag gall fod yn broses anodd. Os ydych chi’n cael trafferth i gael trefn ymarfer corff yna gallwch chi siarad â’r tîm Cyn-sefydlu am hyn a byddwn ni’n eich cefnogi chi yn hyn o beth.
Nid oes unrhyw reswm pam na allwch barhau â’ch gweithgaredd corfforol yn ystod eich triniaeth. Po fwyaf y byddwch yn ei wneud yn ystod y cyfnod hwn, y gorau fydd y canlyniadau.
Bydd yr ymarferion canlynol yn gwella’ch cryfder a’ch stamina. Bydd y cynllun yn eich arwain a’ch cymell wrth weithio tuag at eich nod o wella’ch ffitrwydd. Gellir gwneud yr ymarferion hyn gartref ac nid oes angen unrhyw offer arbenigol arnynt.
Mae’r cyngor ar y tudalennau hyn wedi’i gynllunio i’ch helpu i baratoi ar gyfer y driniaeth sydd o’ch blaen a’ch cefnogi hyd at adferiad.
Os oes angen rhagor o gyngor a chymorth arnoch, trafodwch hyn gyda’ch gweithiwr allweddol neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol
Mae’r cyngor ar y tudalennau hyn wedi’i gynllunio i’ch helpu i baratoi ar gyfer y driniaeth sydd o’ch blaen a’ch cefnogi hyd at adferiad.
Os oes angen rhagor o gyngor a chymorth arnoch, trafodwch hyn gyda’ch gweithiwr allweddol neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol.
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.