Offeryn Hunanarfarnu Llesiant – I’w ddefnyddio ar ôl diagnosis Canser
Deall eich teimladau a phryd i geisio cymorth
Mae’n gyffredin profi cyfnodau o drallod seicolegol yn dilyn diagnosis o ganser. Gall fod yn anodd gwybod a yw eich teimladau’n ymateb cyffredin neu’n rhywbeth mwy difrifol.
Defnyddiwch y system goleuadau traffig isod i nodi pa olau sy’n cynrychioli sut rydych chi’n teimlo nawr ac a oes angen i chi geisio cymorth pellach.
Ceisio Cymorth

- Teimlo wedi’ch llethu, yn sownd, ac yn methu gweithredu’r rhan fwyaf o’r amser, y rhan fwyaf o ddiwrnodau
- Sylwi ar newidiadau sylweddol mewn hwyliau neu lefel pryder
- Pryderon am eich gallu i reoli eich teimladau
- Teimlo’n unig ac yn methu rhannu eich teimladau gyda’ch teulu neu’ch ffrindiau
- Teimladau o anobaith, neu ddiffyg teimlad
- Newidiadau sylweddol o ran cysgu, bwyta, neu agweddau eraill ar weithredu o ddydd i ddydd
- Meddyliau am niweidio eich hun neu eraill
- Meddyliau hunanladdol am ddod â’ch bywyd i ben
Ystyried Cymorth
- Anawsterau cymell eich hun a rheoli bywyd o ddydd i ddydd
- Dim ond ychydig o ymgysylltu â gweithgareddau a pherthnasoedd ystyrlon
- Teimladau amrywiol fel pryder, ofn, hwyliau isel, rhwystredigaeth
neu ddicter sy’n teimlo’n amhosibl ei reoli - Teimlo’n sownd ac yn cael eich llethu gan eich teimladau weithiau
- Meddwl bod eisiau i chi ddod o hyd i ffyrdd newydd o reoli eich teimladau
Parhau
- Ymgysylltu â gweithgareddau a pherthnasoedd ystyrlon
- Gosod nodau dyddiol rydych yn gallu eu rheoli a’u cyflawni
- Teimladau amrywiol fel pryder, ofn, hwyliau isel, rhwystredigaeth, neu ddicter sy’n teimlo fel rhai y gallwch eu trin
- Defnyddio strategaethau defnyddiol i reoli a gwella eich llesiant
Cefnogaeth a chymorth pellach:
Mae’r cyngor ar y tudalennau hyn wedi’i gynllunio i’ch helpu i baratoi ar gyfer y driniaeth sydd o’ch blaen a’ch cefnogi hyd at adferiad.
Os oes angen rhagor o gyngor a chymorth arnoch, trafodwch hyn gyda’ch gweithiwr allweddol neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol.
- Cymorth Canser Macmillan:
0808 808 00 00 - Maggie’s Caerdydd:
029 2240 8024 - Gofal Canser Tenovus:
0808 808 1010