Cadw Fi'n Iach - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Gwella eich Llesiant Seicolegol ar ôl Triniaeth

Mae’r canlyniadau iechyd corfforol ar gyfer triniaeth canser wedi gwella’n aruthrol dros y degawdau diwethaf. Mae triniaeth yn aml yn gwella’r claf ac i eraill, mae’r canser yn cael ei reoli fwyfwy fel cyflwr cronig ochr yn ochr â bywyd cyfoethog a chyflawn.

Yn aml, fodd bynnag, gall effeithiau seicolegol diagnosis a thriniaeth canser barhau’n hir wedi i’r triniaethau corfforol ddod i ben. Gall hyn eich gadael gyda theimladau anodd ac efallai y byddwch yn teimlo y byddech yn elwa o gymorth yn rheoli teimladau anodd yn dilyn triniaeth.

Mae gwell llesiant seicolegol nid yn unig yn cyfeirio at absenoldeb anawsterau seicolegol, mae hefyd yn golygu proses weithredol nid yn unig o reoli teimladau anodd ond y broses o wella eich ymdeimlad o lesiant yn y tymor hir hefyd.

Mae rhai pobl sy’n cael anawsterau seicolegol yn dilyn triniaeth canser mewn perygl o ddatblygu problemau hirdymor neu anawsterau iechyd meddwl.

Mae ymchwil yn dangos, heb gymorth, y gall rhai anawsterau seicolegol ddylanwadu ar ansawdd bywyd unigolyn, ymgysylltu â thriniaeth, dewisiadau ffordd o fyw a gall arwain at anawsterau iechyd meddwl sylweddol.

Mae ymchwil wedi canfod amrywiaeth o ddulliau sy’n gallu bod o gymorth wrth reoli anawsterau seicolegol yn dilyn canser. Mae rhai o’r dulliau hyn yn cynnwys: grwpiau cymorth cyfoedion, cymorth gan elusennau sy’n gysylltiedig â chanser, cymorth ychwanegol gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n ymwneud â’ch gofal, yn ogystal â Therapi Seicolegol neu Gwnsela.

Chi yw’r arbenigwr ar reoli eich teimladau a gwybod a fyddech yn elwa o gymorth. Gall y dulliau a amlinellir uchod a’r adnoddau isod fod yn ffynhonnell gymorth os ydych yn ei chael hi’n anodd rheoli eich teimladau neu os ydych yn teimlo’n sownd.

Mae ymateb emosiynol pawb yn dilyn canser yn wahanol. Does dim un ffordd gywir neu anghywir o “fod” yn dilyn triniaeth canser ac mae’n broses unigol i bawb.

Efallai y bydd rhai pobl yn cael trafferth gyda’r anawsterau a amlinellir uchod, ond efallai na fydd eraill. Mae ymchwil wedi dangos bod rhai pobl yn gweld bod cael profiad o ganser wedi cyfoethogi eu bywyd. Er enghraifft, mae rhai pobl yn dweud bod ganddynt well hunan-barch, mwy o werthfawrogiad o fywyd, mwy o ymdeimlad o ystyr bywyd ac ysbrydolrwydd, a theimladau mwy heddychlon ac o fwy o bwrpas. Does dim dwy daith canser yr un fath ac felly ni fydd taith emosiynol neb yr un fath ‘chwaith: Mae’n broses unigol i bawb.

Efallai y byddwch yn sylwi eich bod yn pendilio rhwng teimladau cadarnhaol a dyrys yn dilyn eich triniaeth, fel y dangosir yn y diagram. Efallai y bydd y glorian yn pendilio rhwng mwynhau gwellhad yn eich llesiant ac anawsterau gyda’ch llesiant, yn dibynnu ar ble rydych yn eich taith canser ar unrhyw adeg benodol.

Fodd bynnag, mae’n bwysig cael ffyrdd o reoli eich llesiant seicolegol er mwyn helpu i gadw cydbwysedd a rheoli eich llesiant yn y tymor hir.

Hefyd yn yr adran hon

Cefnogaeth a chymorth pellach:

Mae’r cyngor ar y tudalennau hyn wedi’i gynllunio i’ch helpu i baratoi ar gyfer y driniaeth sydd o’ch blaen a’ch cefnogi hyd at adferiad.

Os oes angen rhagor o gyngor a chymorth arnoch, trafodwch hyn gyda’ch gweithiwr allweddol neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol.

Cymorth Canser Macmillan:
0808 808 00 00

Maggie’s Caerdydd:
029 2240 8024

Gofal Canser Tenovus:
0808 808 1010

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content