Byw gydag effeithiau triniaeth
Adnabod effeithiau triniaeth yn y tymor byr a’r hirdymor
Gall rhai effeithiau triniaeth fod yn annymunol, ond i rai pobl efallai y bydd yr effeithiau hyn yn cael eu cydbwyso gan y teimlad bod mynd drwy driniaeth canser wedi eu galluogi i fyfyrio ar yr hyn y maen nhw’n ei werthfawrogi mewn bywyd. Efallai ei fod wedi arwain at fwy o deimladau o heddwch, pwrpas, boddhad a hunanhyder. Efallai ei fod hyd yn oed wedi dod â mwy o agosrwydd gyda rhai aelodau o’r teulu neu ffrindiau.
Fodd bynnag, gall rhai sgileffeithiau triniaeth gael effaith fawr ar deimladau o lesiant: gallant ei gwneud yn anodd dychwelyd i weithgareddau bob dydd, gwaith neu hobïau, yn enwedig os yw’r rhain yn cynnwys ymarfer corff ar lefel isel hyd yn oed. Gall y sgileffeithiau hefyd effeithio ar berthnasoedd teuluol a chyfeillgarwch a llesiant emosiynol. Trafodir effeithiau seicolegol triniaeth yn yr adran: Gwella fy llesiant seicolegol yn dilyn triniaeth.
- Creithiau
- Colli meinwe trwy lawdriniaeth / anffurfiad
- Colli gwallt
- Llai o symudedd
- Ennill/colli pwysau
- Lymfedema
Mae llawer o’r effeithiau hyn i’w gweld yn syth ar ôl llawdriniaeth neu driniaeth, hyd yn oed pan fydd dillad neu wig yn cuddio effeithiau oddi wrth bawb heblaw eich partner neu’ch priod. Ond efallai na fydd rhai yn digwydd yn syth megis, newidiadau yn eich pwysau neu lymffoedema. Mae arwyddocâd newidiadau gweladwy i’r corff yn brofiad personol iawn – gall Nyrs, Meddyg neu ffrind eich sicrhau bod “y creithiau’n fach iawn ac yn daclus”, ond efallai y byddwch yn dal i’w deimlo fel newid sylweddol i’r ffordd rydych fel arfer yn gweld ac yn derbyn ymddangosiad eich corff. Os yw’n bwysig i chi, yna mae’n bwysig, a does dim ots a yw eraill yn eu gweld fel pethau llai problemus.
Mae llawer o effeithiau’n gwella gydag amser (e.e. colli gwallt), ond gall rhai barhau ac achosi gofid hyd yn oed ar ôl rhai misoedd.
- Blinder
- Poen
- Chwydu
- Cyfog
- Colli ffrwythlondeb
- Diffyg anadl
- Insomnia
- Anghofrwydd, anhawster gyda swyddogaethau gwybyddol neu feddwl. Mae’r rhain yn aml yn cael eu galw’n “chemo-ymennydd”, ôl-effeithiau cemotherapi neu radiotherapi
- Newidiadau archwaeth
- Anhawsderau llyncu
- Newidiadau llais, neu golli llais
- Colli clyw
- Gweithrediad rhywiol (analluedd, poen wrth gyfathrach rywiol, colli diddordeb rhywiol)
- Anymataliaeth wrinol
- Anymataliaeth ysgarthion
- Aflonyddwch gastrig
Fel effeithiau gweladwy, efallai na fydd rhai o’r newidiadau hyn mor syth. Gall nyrs, meddyg neu ffrind dawelu eich meddwl mai mân newidiadau yw’r rhain, neu nad oes ots ganddyn nhw, ond os ydyn nhw’n cael effaith fawr arnoch chi, yna mae’n bwysig iawn – nid yw’n berthnasol a yw eraill yn eu gweld yn llai cythryblus.
Mae llawer o effeithiau yn gwella gydag amser (e.e. poen neu flinder), ond gall rhai barhau ac achosi trallod hyd yn oed ar ôl rhai misoedd.
O ran effeithiau gweladwy ac anweladwy, efallai y bydd gan berson deimladau cymysg iawn: “Rydw i wedi goroesi ac rwy’n ddiolchgar am y driniaeth”, ond efallai y byddan nhw hefyd yn teimlo’n ddig ei fod wedi gadael effeithiau diangen a all fod yn anodd byw gyda nhw. Efallai y byddan nhw hefyd yn teimlo nad oedden nhw’n barod ar gyfer y newidiadau hyn, neu nad oedden nhw’n sylweddoli y byddai’r sgileffeithiau’n effeithio cymaint ar eu bywydau. Yn aml, pan fydd Meddyg neu Nyrs yn disgrifio’r sgileffeithiau hyn cyn triniaeth, mae pobl yn teimlo’n rhy bryderus neu’n ofidus i ddeall yn iawn beth allai’r effeithiau eu golygu.
Yn aml, mae cleifion yn awyddus iawn i fwrw ymlaen â thriniaeth cyn gynted â phosibl, gan ei gwneud yn anodd canolbwyntio ar sut beth fyddai bywyd wedyn.
Mae rhai pobl hyd yn oed yn dweud na fydden nhw wedi cael triniaeth pe bydden nhw’n gwybod y byddai’n anodd byw gyda’r effeithiau.
Gall y rhain fod yn deimladau dealladwy a pheidiwch â theimlo’n euog os bydd hyn yn digwydd i chi. Fodd bynnag, efallai y bydd yn anodd siarad am y teimladau hyn gyda’ch teulu neu’ch ffrindiau agos sy’n ddiolchgar eich bod wedi goroesi ac felly efallai y byddan nhw’n ceisio lleihau’r effaith mae wedi’i chael arnoch chi. I’ch helpu i fyw’n fwy cyfforddus gyda’r meddyliau hyn edrychwch ar y tudalennau: Gwella fy llesiant seicolegol yn dilyn triniaeth am gyngor a gwybodaeth.
Ond yn y pen draw, mae’r rhan fwyaf o bobl yn dod o hyd i ffordd o wneud addasiadau i’r effeithiau hyn ac addasu eu ffordd o fyw er mwyn eu derbyn.
Cefnogaeth a chymorth pellach:
Mae’r cyngor ar y tudalennau hyn wedi’i gynllunio i’ch helpu i baratoi ar gyfer y driniaeth sydd o’ch blaen a’ch cefnogi hyd at adferiad.
Os oes angen rhagor o gyngor a chymorth arnoch, trafodwch hyn gyda’ch gweithiwr allweddol neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol.
Cymorth Canser Macmillan:
0808 808 00 00
Maggie’s Caerdydd:
029 2240 8024
Gofal Canser Tenovus:
0808 808 1010