Gall teimlo’n ansicr neu’n ddryslyd am eich triniaeth fod yn destun gofid a gall hyn effeithio ar eich canlyniadau tymor hir. Mae’n bwysig ystyried a ydych yn teimlo’n fodlon â’ch dealltwriaeth o’ch triniaeth. Os ydych chi’n teimlo’n anfodlon, efallai y byddwch yn elwa o gael rhagor o wybodaeth. Mae’n bwysig gofyn am ragor o wybodaeth gan y Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol sy’n ymwneud â’ch gofal.
Gall rhagor o wybodaeth am driniaeth helpu i wella dealltwriaeth, cefnogi penderfyniadau gwybodus, a helpu i baratoi’n seicolegol ar gyfer triniaeth. Mae chwilio am wybodaeth yn helpu rhai pobl i deimlo bod ganddyn nhw reolaeth dros rhai agweddau y mae’n bosibl eu rheoli. Fodd bynnag, efallai y bydd eraill yn canfod bod gwybodaeth bellach yn ormod iddyn nhw a byddai’n well ganddyn nhw gael rhywbeth i dynnu’u sylw oddi ar y driniaeth. Mae’n bwysig gwybod a oes angen rhagor o wybodaeth arnoch ac os yw chwilio am wybodaeth o’r fath yn teimlo’n anghyfforddus, efallai y gallai rhywun arall, fel aelod o’r teulu neu ffrind, eich cefnogi gyda hyn.
Mae ymchwil yn awgrymu ei bod yn bwysig i bobl ddeall beth fydd yn digwydd yn ystod triniaeth, pryd y bydd yn digwydd a sut y bydd yn digwydd. Gall gwybod beth i’w ddisgwyl fel sut y gallai’r driniaeth deimlo, synhwyrau a sgil-effeithiau posibl helpu gyda pharatoi seicolegol. Yn yr un modd, mae hefyd yn bwysig cael ymdeimlad o’r hyn sydd i’w ddisgwyl yn dilyn triniaeth. Mae syniad o’r heriau neu’r sgileffeithiau y gallech eu hwynebu ar ôl triniaeth yn debygol o wella eich gallu i’w rheoli.
Yn ystod apwyntiadau ysbyty, gall fod yn anodd prosesu’r wybodaeth gymhleth y gallech ei chlywed am eich triniaeth. Gall apwyntiadau ysbyty fod yn straen a gall hyn ei gwneud yn anoddach meddwl yn glir, prosesu a chofio gwybodaeth newydd. Ar ôl eich apwyntiad, efallai y bydd gennych gwestiynau heb eu hateb. Mae’n bwysig holi eich Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich gofal neu driniaeth rhwng apwyntiadau.
Mae rhai pobl yn teimlo’i bod o help i ddod ag aelod o’r teulu neu ffrind i apwyntiadau sy’n gallu darparu cymorth ym mha ffordd bynnag sy’n teimlo’n ddefnyddiol. Gall fod yn ddefnyddiol cadw dyddlyfr neu gofnod o’ch apwyntiadau y gallwch gyfeirio’n ôl atyn nhw, os oes angen. Mae rhai pobl yn ei chael hi’n ddefnyddiol paratoi ar gyfer apwyntiad drwy ddod â chwestiynau ysgrifenedig i ofyn i’w Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol.
Mae’r cyngor ar y tudalennau hyn wedi’i gynllunio i’ch helpu i baratoi ar gyfer y driniaeth sydd o’ch blaen a’ch cefnogi drwy eich adferiad.
Os oes angen rhagor o gyngor a chymorth arnoch, trafodwch hyn gyda’ch gweithiwr allweddol neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol.
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.