Paratoi ar gyfer Triniaeth Canser
Os ydych wedi cael diagnosis o ganser, mae’n bwysig paratoi ar gyfer unrhyw driniaeth bosibl o flaen llaw. Mae tystiolaeth yn dangos bod rhoi sylw i’ch maeth, eich lefelau gweithgarwch a’ch llesiant yn dod â llawer o fanteision pwysig.

Po orau rydych yn teimlo cyn i unrhyw driniaeth ddechrau, yr hawsaf fydd eich taith, a bydd eich adferiad ar ôl triniaeth yn gyflymach hefyd.
Cliciwch ar y botymau isod am fwy.
Bod yn Egnïol
Cyflwyniad i weithgarwch corfforol gydag ymarfer corff ar wahanol lefelau.
Adeiladu a Chadw Egni
Blinder sy’n gysylltiedig â chanser
Wella’ch deiet
Mae maethiad da y yn enwedig wrth baratoi ar gyfer triniaeth canser.
Efallai bod canser eisoes wedi effeithio ar eich archwaeth neu’r pethau y gallwch chi eu gwneud o ddydd i ddydd. Gall triniaeth canser hefyd fod yn her i chi yn gorfforol, yn feddyliol, yn gymdeithasol ac yn emosiynol. Mae llawer o bethau y gallwch eu gwneud i reoli’r newidiadau y gallech fod yn eu profi neu’r ffordd rydych yn teimlo, a fydd yn eich galluogi i gymryd rheolaeth a pharhau i wneud y gweithgareddau sy’n bwysig i chi.
Mae tystiolaeth wedi dangos y gall paratoi ar gyfer triniaeth drwy weithgarwch corfforol, maeth da a gofalu am eich llesiant emosiynol:
- Leihau cymhlethdodau a sgileffeithiau sy’n gysylltiedig â thriniaeth canser a helpu i gyflymu adferiad.
- Eich galluogi i wneud y pethau sy’n bwysig i chi.
- Gweithio tuag at ffordd fwy egnïol o fyw.
- Eich helpu i deimlo’n fwy gwydn a hyderus.
- Gwella eich hwyliau a helpu i reoli pryder a straen.
- Gwella maeth a sicrhau bod gennych ddigon o ‘danwydd’ ar gyfer y driniaeth sydd o’ch blaen.
Beth mae Rhagsefydlu’n ei gynnwys?
Mae rhagsefydlu yn gyfle i chi ganolbwyntio ar eich iechyd a’ch llesiant. Mae’n gyfle i fod yn gryfach ac yn fwy heini wrth i chi baratoi ar gyfer eich triniaeth. Mae hefyd yn gyfle i gymryd rhywfaint o amser i ganolbwyntio ar eich llesiant meddyliol ac emosiynol. Bydd gwneud hyn yn eich helpu i reoli’r sgileffeithiau y gallech eu profi, megis blinder, llai o archwaeth, straen, pryder neu boen.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth i’ch cefnogi i gymryd y camau hyn ar ein tudalennau gwe. Dewiswch yr adran(nau) uchod sydd o ddiddordeb i chi ac ewch i’r tudalennau gwe pwrpasol i ddysgu mwy.
Hefyd yn yr adran hon
Cefnogaeth a chymorth pellach:
Mae’r cyngor ar y tudalennau hyn wedi’i gynllunio i’ch helpu i baratoi ar gyfer y driniaeth sydd o’ch blaen a’ch cefnogi hyd at adferiad. Os ydych yn aros am lawdriniaeth, mae rhagor o wybodaeth am baratoi ar gyfer eich llawdriniaeth ar gael yma.
Os oes angen rhagor o gyngor a chymorth arnoch, trafodwch hyn gyda’ch gweithiwr allweddol neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol.
Cymorth Canser Macmillan:
0808 808 00 00
Maggie’s Caerdydd:
029 2240 8024
Gofal Canser Tenovus:
0808 808 1010