Cadw Fi'n Iach - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Gwella eich llesiant seicolegol yn y dyfodol

Pan fyddwch chi’n gwneud eich cynlluniau llesiant, mae’n gallu bod yn ddefnyddiol meddwl beth sy’n debygol o fod o fudd i chi yn y tymor byr a’r tymor hir. Er enghraifft, os ydych chi’n cael trafferth gyda blinder, yn y tymor byr efallai y byddwch chi’n bod yn garedig â chi eich hun ac yn mynd i gael hoe fach. 

Fodd bynnag, wrth ystyried eich nodau hirdymor, efallai y byddai ymchwilio i fuddion hylendid cwsg ac amserlennu gweithgareddau yn fwy buddiol na chael hoe. Gallwch wneud hyn mewn meysydd eraill hefyd, megis gwneud dewisiadau iach o ran eich ffordd o fyw. 

Gall fod o fudd i chi holi eich hun: 

  1. Beth yw fy ngobeithion a’m dyheadau, yn y tymor byr a’r tymor hir? 

  2. Beth allai fy atal rhag cyflawni fy nodau? 

  3. Pa gamau cyntaf y gallaf eu cymryd i’w cyflawni? 

Mae newid ymddygiad neu ddechrau arferion newydd yn gallu bod yn anodd. Efallai bod strategaethau neu ddulliau gwneud newidiadau yr ydych wediu defnyddio or blaen yn gallu bod o gymorth. Beth am osod nodau CAMPUS i chi eich hun? 

Gall torri eich nodau i fformat SMART fod yn ddefnyddiol iawn – ar y dudalen hon “Beth arall allwch chi ei wneud nawr i wneud y gorau o’ch adsefydlu ac adferiad yn dilyn triniaeth?”

Eich gwerthoedd chi, eich bywyd chi

Mae ymchwil ynghylch therapi derbyn ac ymrwymiad (math o therapi siarad) yn awgrymu bod byw bywyd yn unol â’ch gwerthoedd yn gallu cyfrannu at lesiant seicolegol da. 

Mae bywyd yn debygol o fod yn wahanol yn dilyn canser ond trwy fod yn hyblyg ac yn ymaddasol, mae’n bosibl derbyn bod poen corfforol ac emosiynol yn rhan anochel o’r profiad dynol, ac nad oes angen i feddyliau a theimladau anodd reoli eich bywyd. 

Gwerthoedd yw’r pethau sy’n eich helpu i roi ystyr i fywyd ac maen nhw’n unigryw i bawb. Mae gwerthoedd fel cwmpawd, yn gallu eich helpu i wneud dewisiadau yn seiliedig ar y cyfeiriad rydych chi am ei ddilyn yn eich bywyd. 

Gellir defnyddio’r Holiadur Byw Gwerthfawr i weld a ydych yn byw eich bywyd yn unol â’ch gwerthoedd ar hyn o bryd ai peidio.

Mae’r holiadur hwn yn eich annog i feddwl am werthoedd eich bywyd mewn deg maes, gan gynnwys teulu, perthnasoedd agos, magu plant, bywyd cymdeithasol, gwaith, addysg/hyfforddiant, hwyl, ysbrydolrwydd, cymuned, hunanofal, materion amgylcheddol a mynegiant creadigol.

Gall cwblhau’r holiadur hwn eich helpu i ddiffinio beth yw eich gwerthoedd mewn bywyd, ac a ydych yn byw eich bywyd yn unol â’r gwerthoedd hyn ar hyn o bryd.

Defnyddio Strategaethau Seicolegol 

Os ydych chi’n cael trafferth gyda theimladau anodd, gall fod yn anodd dysgu strategaethau seicolegol newydd i reoli eich llesiant, yn enwedig os ydych chi’n derbyn triniaeth barhaus. 
Efallai y byddai’n fanteisiol i chi ddefnyddio strategaethau cymorth sydd eisoes yn gweithio i chi. 

Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd rheoli tonnau dwys o emosiwn, ceisiwch ddefnyddio’r dechneg ‘gollwng angor’.  

Mae creu blwch hunan-gysur yn gallu bod o gymorth i reoli teimladau anodd hefyd. 

Mae tystiolaeth ymchwil wedi dangos bod myfyrdod ac ymwybyddiaeth ofalgar yn gallu helpu unigolion i reoli teimladau anodd. Gwelwyd bod hyn hefyd yn wir i unigolion yn dilyn triniaeth canser. Mae gwybodaeth ar wefan y Cadw Fi’n Iach am ymwybyddiaeth ofalgar. 

Mae’n gallu bod yn fuddiol rhoi caniatâd i chi eich hun fyfyrio ar bethau sy’n mynd yn dda (er enghraifft, enwi tri pheth da yn eich bywyd, neu dri pheth sy’n mynd yn dda), yn ogystal â chael amser i fyfyrio ar y pethau sydd ddim yn mynd cystal (er enghraifft, neilltuo deg munud y dydd i ysgrifennu pob pryder ac yna eu rhoi o’r neilltu mewn bocs neu ddrôr). 

Hefyd yn yr adran hon

Cymorth a chefnogaeth bellach: 

Mae’r cyngor ar y tudalennau hyn wedi’i gynllunio i’ch helpu i baratoi ar gyfer y driniaeth sydd o’ch blaen a’ch cefnogi wrth i chi wella. 

Os ydych chi angen rhagor o gyngor a chymorth, trafodwch hyn gyda’ch gweithiwr allweddol neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol. 

  • Llinell gymorth canser Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro:
    02920 745655  (9:00am to 12:30pm and 1:30pm to 4:00pm)
  • Cymorth Canser Macmillan:
    0808 808 00 00
  • Maggie’s Caerdydd:
    029 2240 8024
  • Gofal Canser Tenovus:
    0808 808 1010
Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content