Mae’n gyffredin profi amrywiaeth o deimladau gwahanol yn ystod triniaeth canser. Efallai eich bod yn profi teimladau fel anghrediniaeth, ofn, pryder, dicter, tristwch ac unigrwydd, neu efallai eich bod yn ei chael hi’n anodd teimlo unrhyw beth o gwbl. Efallai y byddwch yn teimlo na allwch brosesu neu wneud synnwyr o sut rydych yn teimlo ar hyn o bryd oherwydd gofynion triniaeth eraill. Mae ystod a dwyster eich teimladau yn debygol o amrywio yn ystod triniaeth.
Mae’n iawn peidio â theimlo’n iawn.
Efallai y bydd eich triniaeth yn para am amser hir ac efallai y bydd cyfnodau o aros ac ansicrwydd. Gall hyn fod yn heriol yn gorfforol ac yn emosiynol ac nid oes unrhyw ffordd gywir neu anghywir o deimlo. Mae’n gyffredin profi amrywiaeth o emosiynau ar wahanol adegau yn ystod triniaeth. Efallai y byddwch yn gweld bod rhai o’ch teimladau dwys yn pasio gydag amser, tra bod eraill yn aros yn hirach. Mae rhai pobl yn disgrifio’r broses fel rollercoaster emosiynol. Mae’n bwysig cofio bod eich teimladau’n debygol o ymateb i’r sefyllfa rydych chi ynddi.
Mae llawer o ffyrdd gwahanol o reoli teimladau anodd ac nid oes rhaid i chi ddioddef ar eich pen eich hun.
Os ydych yn profi teimladau anodd yn ystod triniaeth, efallai y byddai’n ddefnyddiol ystyried y cwestiynau canlynol isod.
Ystyriwch a oes gennych unrhyw gwestiynau heb eu hateb. Gofynnwch am wybodaeth gan weithwyr iechyd proffesiynol sy’n ymwneud â’ch gofal os ydych yn teimlo nad ydych yn glir ynghylch agweddau ar eich triniaeth.
Ystyriwch eich dealltwriaeth o’r hyn mae eich cynllun triniaeth yn ei olygu a beth yw eich nodau triniaeth. Gofynnwch am wybodaeth gan weithwyr iechyd proffesiynol sy’n ymwneud â’ch gofal os ydych yn teimlo nad ydych yn glir ynghylch agweddau ar eich cynllun triniaeth. Bydd deall eich nodau triniaeth yn rhoi ymdeimlad cliriach i chi o’r hyn i’w ddisgwyl a’r hyn yr ydych yn gweithio tuag ato.
Ystyriwch a fyddai paratoad seicolegol ychwanegol ar gyfer y driniaeth o gymorth. Efallai bod cymorth ymarferol a allai fod o help. Os ydych yn cael anawsterau, gall deall a rheoli eich teimladau fod o gymorth.
Ystyriwch pa gymorth sydd ei angen arnoch gan eraill. Rhowch wybod iddynt ba gymorth y byddai’n help i chi. Ewch i’r dudalen we hon i gael gwybodaeth bwrpasol am ddod o hyd i’r cymorth sydd ei angen arnoch gan eraill.
Bydd eich taith driniaeth yn unigol i chi a’ch amgylchiadau personol.
Mae triniaeth yn debygol o roi llawer o ofynion corfforol, seicolegol ac ymarferol arnoch, a allai deimlo’n anodd eu rheoli ar adegau. Mae rhai pobl yn profi lefelau uchel o drallod seicolegol yn ystod triniaeth a all deimlo’n llethol ac yn amhosibl eu rheoli.
Mae rhai pobl yn gweld mai prin yw eu gallu i gysylltu â’u teimladau tra byddant yn mynd drwy driniaeth. Tra bod eraill yn gweld eu bod yn profi cyfuniad o deimladau llethol a datgysylltiad â theimladau.
Nid oes unrhyw ffordd gywir neu anghywir o deimlo yn ystod triniaeth.
Os ydych yn ei chael hi’n anodd rheoli eich teimladau, efallai y bydd y wybodaeth ganlynol o gymorth i chi:
Mae’r cyngor ar y tudalennau hyn wedi’i gynllunio i’ch helpu i baratoi ar gyfer y driniaeth sydd o’ch blaen a’ch cefnogi hyd at adferiad.
Os oes angen rhagor o gyngor a chymorth arnoch, trafodwch hyn gyda’ch gweithiwr allweddol neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol.
Cymorth Canser Macmillan:
0808 808 00 00
Maggie’s Caerdydd:
029 2240 8024
Gofal Canser Tenovus:
0808 808 1010
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.