Gall fod yn anodd gwybod ble i ddechrau wrth baratoi eich hun ar gyfer triniaeth. Mae diagnosis o ganser yn aml yn sydyn ac yn annisgwyl. Mae’n gyffredin i deimladau dyrys ymddangos ar ôl cael diagnosis ac efallai eich bod yn ceisio gwneud synnwyr o’r teimladau hyn wrth wneud penderfyniadau am eich triniaeth.
Efallai y byddwch yn brysur yn gwneud trefniadau ymarferol ac yn paratoi’ch hun yn gorfforol ar gyfer triniaeth. Gall paratoi ar gyfer triniaeth fod yn straen ac efallai y byddwch yn teimlo nad oes gennych lawer o amser i baratoi eich hun yn seicolegol cyn i’r driniaeth ddechrau.
Mae gan bob un ohonom ein ffyrdd gwahanol o reoli neu ymdopi mewn sefyllfaoedd anodd, sydd wedi’u dysgu dros amser. Mae’r ffordd rydym yn rheoli straen yn cael ei ddylanwadu gan y sefyllfa anodd yr ydym yn ei hwynebu, ein profiadau blaenorol o reoli straen, yn ogystal â gwahaniaethau unigol fel personoliaeth. Does yr un ffordd gywir nac anghywir o reoli straen. Yn hytrach, mae’n ymwneud â chael ystod o strategaethau defnyddiol y gallwch eu defnyddio i’ch helpu i reoli’r pethau y mae gennych reolaeth drostyn nhw.
Mae rhai pobl yn ei chael hi’n ddefnyddiol i chwilio am ragor o wybodaeth, Mae rhai yn datrys problemau ac mae rhai’n defnyddio pethau i dynnu eu sylw oddi ar y sefyllfa. Mae rhai’n lleddfu effaith y sefyllfa tra bod rhai yn defnyddio hiwmor ac mae rhai yn ei chael hi’n ddefnyddiol i siarad amdano fe. Gallwch ddefnyddio strategaethau gwahanol yn dibynnu ar yr hyn sy’n teimlo’n ddefnyddiol ar y pryd.
Efallai y gwelwch nad yw strategaethau ymdopi defnyddiol sydd wedi gweithio o’r blaen mor effeithiol mwyach. Os felly, efallai y byddai’n ddefnyddiol ystyried ffyrdd eraill o reoli straen a pharatoi eich hun yn seicolegol ar gyfer triniaeth.
Mae ymchwil yn awgrymu y gall paratoi seicolegol ar gyfer triniaeth wella canlyniadau clinigol tymor byr a thymor hir. Er enghraifft, mae gwell llesiant seicolegol yn gwella iachâd ac adfer yn dilyn triniaeth.
Mae’n arferol profi amrywiaeth o deimladau gwahanol wrth gael diagnosis, triniaeth, ac yn ystod adferiad. Mae gan bob un ohonom wahanol ffyrdd o brofi a rheoli ein teimladau.
Chi yw’r arbenigwr o ran deall a rheoli’ch teimladau.
Mae ein meddyliau a’n teimladau’n dylanwadu ar ein hymddygiad a’r hyn a wnawn. Mae hyn yn golygu y gallai meddyliau neu deimladau anodd ymyrryd â’n gallu i ymgysylltu â thriniaeth ac adferiad.
Er enghraifft, gall pryderon am driniaeth ddylanwadu ar ein penderfyniadau a pharatoi ar gyfer triniaeth. Dyma pam mae’n bwysig sylwi ar unrhyw newidiadau yn y ffordd rydych chi’n teimlo ac ystyried beth allwch chi ei wneud i helpu i reoli eich teimladau’n fwy effeithiol. Mae cydnabod yr hyn sy’n teimlo’n anodd a beth allai eich helpu i ymdopi’n fwy effeithiol yn rhan o baratoi eich hun yn seicolegol.
Mae paratoi seicolegol yn golygu tiwnio i mewn i unrhyw bryderon neu ofidiau sydd gennych am driniaeth. Efallai y byddwch yn elwa o gael rhagor o wybodaeth neu efallai y bydd ffyrdd y gallech deimlo bod gennych fwy o reolaeth dros benderfyniadau am eich triniaeth. Mae’n bwysig deall terfynau’r hyn y gallwch ac na allwch ei reoli. Chi yw’r arbenigwr mewn deall a rheoli eich teimladau. Mae’n gyffredin i brofi teimladau anodd cyn triniaeth ac efallai y bydd strategaethau sy’n eich helpu i oddef a rheoli’r teimladau hyn. Efallai y bydd paratoadau ymarferol hefyd y gallech eu gwneud y mae gennych fwy o reolaeth drostynt.
Rhan allweddol o baratoi seicolegol yw gwybod sut y gallai eich teimladau ymddangos a gwybod beth allwch chi ei wneud i helpu i reoli’r teimladau hyn. Gall nodi strategaethau i helpu i reoli’ch teimladau a ffyrdd o hyrwyddo’ch lles optimeiddio eich adferiad yn y tymor hir. Rhan o ddeall ein teimladau hefyd yw gwybod pryd i geisio cymorth os yw teimladau’n mynd yn anhydrin neu’n llethol.
Defnyddiwch yr Offeryn Hunanarfarnu Llesiant i’ch helpu i nodi pryd i geisio cymorth a phwy i ofyn iddyn nhw am gymorth.
Ystyriwch ba gwestiynau sydd gennych am eich triniaeth. Os oes angen gwybodaeth gyffredinol arnoch am wahanol fathau o ganser a thriniaeth, efallai y bydd ymweliad â Chanolfan Wybodaeth Macmillan neu wefan Macmillan o gymorth. Efallai y bydd gennych gwestiynau penodol yn ymwneud â’ch triniaeth. Os felly, efallai yr hoffech ofyn i Weithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol sy’n ymwneud â’ch gofal.
Ystyriwch a ydych yn deall ac yn cytuno â’ch cynllun triniaeth. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am eich triniaeth, efallai y byddai’n ddefnyddiol trafod hyn ymhellach gyda Gweithiwr Iechyd Proffesiynol sy’n ymwneud â’ch gofal. Mae’n bwysig eich bod yn gwneud penderfyniad gwybodus am eich triniaeth.
Meddyliwch am adeg yn eich bywyd pan gawsoch chi deimladau fel straen, pryder, ofn, dicter neu hwyliau isel. Ystyriwch a oedd unrhyw newidiadau yn eich meddyliau neu bryderon y gallech fod wedi’u cael. Efallai bod newidiadau yn eich corff (e.e. eich calon yn curo’n gyflymach, tensiwn cyhyrau a phroblemau cysgu). Meddyliwch sut y byddech chi’n adnabod y teimlad hwn pe baech chi’n ei brofi eto.
Meddyliwch am yr hyn rydych chi eisoes yn ei wneud i helpu i reoli sut rydych chi’n teimlo. Efallai y byddwch yn gallu gwneud mwy o’r hyn rydych chi’n ei wybod sydd eisoes yn helpu. Ystyriwch a oes ffyrdd eraill y gallech wella eich llesiant yn ystod triniaeth. Gallai meddwl am sut i baratoi eich hun yn seicolegol ar gyfer triniaeth fod o gymorth.
Ystyriwch a oes sefyllfaoedd neu sbardunau a allai achosi i chi deimlo wedi’ch llethu. Meddyliwch pa newidiadau y gallai pobl eraill sylwi ynddoch chi pe byddech chi’n dechrau teimlo eich bod wedi’ch llethu Gall fod yn ddefnyddiol meddwl am yr hyn a allai fod o gymorth a’r hyn sydd ei angen arnoch gan eraill os byddwch yn cael anawsterau wrth reoli eich teimladau. Defnyddiwch yr Offeryn Hunanarfarnu Llesiant i’ch helpu i nodi pryd i geisio cymorth a chan bwy. Efallai y byddai hefyd yn ddefnyddiol meddwl am yr hyn y gallwch ei wneud i baratoi eich hun yn seicolegol ar gyfer triniaeth.
Meddyliwch am bwy fyddech chi’n teimlo’n gyfforddus i rannu eich teimladau. Weithiau gall fod yn ddefnyddiol siarad ag aelod o’r teulu, ffrind neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol. Mae’n well gan rai pobl siarad â rhywun niwtral nad yw’n aelod o’r teulu, yn ffrind nac yn ymwneud yn uniongyrchol â’u gofal. Ystyriwch pwy allai fod o gymorth mawr i siarad â nhw yn dibynnu ar sut rydych chi’n teimlo. Defnyddiwch yr Offeryn Hunanarfarnu Llesiant yn y ddolen hon i’ch helpu.
Mae’r cyngor ar y tudalennau hyn wedi’i gynllunio i’ch helpu i baratoi ar gyfer y driniaeth sydd o’ch blaen a’ch cefnogi hyd at adferiad.
Os oes angen rhagor o gyngor a chymorth arnoch, trafodwch hyn gyda’ch gweithiwr allweddol neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol.
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.