Cadw Fi'n Iach - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Ydych chi’n teimlo bod gennych reolaeth dros benderfyniadau am eich triniaeth Canser?

Ers cael diagnosis o ganser, efallai y byddwch yn gweld eich bod yn gorfod gwneud llawer o benderfyniadau anodd megis sut i gynnwys teulu neu ffrindiau, trefniadau gofal ar gyfer dibynyddion, trefniadau gwaith, a rheoli cyllid. Gall gwneud penderfyniadau am eich triniaeth deimlo’n straen.

I wneud penderfyniad gwybodus, bydd angen i chi ddeall eich diagnosis, y triniaethau sydd ar gael, yr ystod o sgileffeithiau posibl, a’r amserlen ar gyfer gwneud y penderfyniad. Mae’n bwysig pwyllo wrth wneud penderfyniadau pwysig. Efallai y byddai’n ddefnyddiol i chi gymryd amser i feddwl am hyn a phwyso a mesur manteision ac anfanteision eich opsiynau triniaeth.

Gall bod yn bendant eich helpu i deimlo mewn rheolaeth pan fydd llawer o bethau yn teimlo eu bod allan o’ch rheolaeth. Gall rhoi gwybod i eraill beth sydd ei angen arnoch eich helpu i ddiwallu eich anghenion. Os oes gennych unrhyw gwestiynau heb eu hateb, mae’n bwysig siarad â’r Gweithwyr Iechyd Proffesiynol sy’n ymwneud â’ch gofal. Gofynnwch unrhyw gwestiynau sydd gennych am effaith gymdeithasol triniaeth, megis goblygiadau ariannol gan y gallwch gael eich cyfeirio at wybodaeth berthnasol neu gymorth.
Weithiau gall fod yn ddefnyddiol gofyn am gefnogaeth gan deulu a ffrindiau wrth wneud penderfyniadau pwysig. Fodd bynnag, mae rhai pobl yn ei chael hi’n haws siarad â rhywun niwtral. Os felly, gofynnwch i un o’r Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol sy’n ymwneud â’ch gofal a ellir eich cyfeirio am gymorth i wneud penderfyniad am driniaeth.

Cofiwch, eich triniaeth chi a’ch penderfyniad chi ydyw.

Hefyd yn yr adran hon

Cymorth pellach:

Mae’r cyngor ar y tudalennau hyn wedi’i gynllunio i’ch helpu i baratoi ar gyfer y driniaeth sydd o’ch blaen a’ch cefnogi drwy eich adferiad.

Os oes angen rhagor o gyngor a chymorth arnoch, trafodwch hyn gyda’ch gweithiwr allweddol neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol.

  • Cymorth Canser Macmillan:
    0808 808 00 00
  • Maggie’s Caerdydd:
    029 2240 8024
  • Gofal Canser Tenovus:
    0808 808 1010
Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content