Cadw Fi'n Iach - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Cynnal eich llesiant seicolegol yn ystod arhosiad yn yr ysbyty

Gall rhan o’ch triniaeth olygu aros yn yr ysbyty. Gall arhosiad yn yr ysbyty fod yn heriol ac mae’n gyffredin profi amrywiaeth o deimladau gwahanol tra byddwch yn yr ysbyty.

Efallai y byddwch yn profi teimladau fel bregusrwydd, ofn, pryder, dicter, tristwch, anghrediniaeth ac unigrwydd, neu efallai y byddwch yn ei chael hi’n anodd teimlo unrhyw beth o gwbl. Efallai y bydd yn anodd gwneud synnwyr o sut rydych chi’n teimlo ac efallai y byddwch yn ei chael hi’n anodd prosesu eich teimladau tra byddwch yn dal i fod yn yr ysbyty.

Mae ystod a dwyster eich teimladau yn debygol o amrywio yn ystod eich arhosiad yn yr ysbyty, a all gael eu dylanwadu gan ffactorau sy’n gysylltiedig â’ch triniaeth.

Mae’n iawn peidio â theimlo’n iawn.

Efallai y bydd eich triniaeth yn para am amser hir. Efallai y bydd cyfnodau o aros ac o ansicrwydd. Gall hyn fod yn heriol yn gorfforol ac yn emosiynol ac nid oes unrhyw ffordd gywir neu anghywir o deimlo. Mae’n gyffredin teimlo amrywiaeth o emosiynau ar wahanol adegau yn ystod triniaeth. Efallai y byddwch yn gweld bod rhai o’ch teimladau dwys yn pasio gydag amser, tra bod eraill yn aros yn hirach. Mae rhai pobl yn disgrifio’r broses fel rollercoaster emosiynol. Mae’n bwysig cofio bod eich teimladau’n debygol o fod yn ymateb i’r sefyllfa rydych ynddi.

Mae llawer o ffyrdd gwahanol o reoli teimladau anodd ac nid oes rhaid i chi ddioddef ar eich pen eich hun.

Anghenion seicolegol yn yr ysbyty

Gall arhosiad fel claf mewnol yn yr ysbyty eich gadael yn teimlo’n fregus. Tra byddwch yn yr ysbyty, ni fyddwch yn cael cysur a theimladau cyfarwydd eich cartref, eich arferion a’ch systemau cymorth sydd ar gael i chi yno. Mae gan bob un ohonom ein hanghenion ffisiolegol sylfaenol ac efallai y byddwch yn cael eich hun yn dibynnu ar staff nad ydych yn eu hadnabod i ddarparu lluniaeth, cefnogaeth a chymorth gydag unrhyw anghenion gofal sydd gennych.

Mae ymdeimlad o ddiogelwch yn debygol o’ch helpu i deimlo’n fwy cyfforddus tra byddwch oddi cartref. Gall perthynas â staff gofal iechyd sy’n seiliedig ar ymddiriedaeth a chyfathrebu clir helpu i feithrin ymdeimlad o ddiogelwch. Bydd bod yn glir gyda staff gofal iechyd am eich anghenion, eich disgwyliadau ac unrhyw bryderon sydd gennych, yn eu helpu i roi’r cymorth sydd ei angen arnoch.

Gall cysylltu ag eraill tra byddant yn yr ysbyty a chael mynediad i’ch system gymorth gymdeithasol hefyd eich helpu i deimlo’n debycach i chi eich hun.

Strategaethau Rheoli

Os oes gennych arhosiad wedi’i drefnu yn yr ysbyty, gall paratoi ymlaen llaw fod yn ddefnyddiol. Gall pacio eich pecyn gofal emosiynol ar gyfer yr ysbyty eich helpu i deimlo’n fwy parod ar gyfer teimladau dyrys a allai godi yn ystod eich arhosiad. Defnyddiwch bum canllaw Iechyd Seicolegol yn yr Ysbyty i wella eich llesiant seicolegol yn ystod arhosiad yn yr ysbyty.

Pum canllaw Iechyd Seicolegol yn yr Ysbyty

Cefnogaeth a chymorth pellach:

Mae’r cyngor ar y tudalennau hyn wedi’i gynllunio i’ch helpu i baratoi ar gyfer y driniaeth sydd o’ch blaen a’ch cefnogi hyd at adferiad.

Os oes angen rhagor o gyngor a chymorth arnoch, trafodwch hyn gyda’ch gweithiwr allweddol neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol.

Cymorth Canser Macmillan:
0808 808 00 00

Maggie’s Caerdydd:
029 2240 8024

Gofal Canser Tenovus:
0808 808 1010

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content