A oes pethau ymarferol y gallwch eu gwneud i baratoi ar gyfer triniaeth?

Gall triniaeth canser fod yn heriol yn gorfforol ac amharu ar eich bywyd a’ch arferion bob dydd.
Efallai y bydd pethau ymarferol y gallwch eu gwneud i baratoi ar gyfer triniaeth.

Gall fod yn ddefnyddiol ystyried:

  • Pa gynllunio allwch chi ei wneud nawr i’ch helpu i ymdopi yn ystod triniaeth?
  • Beth fydd angen i chi ei flaenoriaethu yn ystod triniaeth?
  • A fydd angen i chi drefnu absenoldeb o’r gwaith?
  • Os oes gennych gyfrifoldebau megis gofalu am ddibynyddion, a oes unrhyw un a allai helpu gyda hyn yn ystod triniaeth?
  • A oes unrhyw gyfrifoldebau eraill y gallai fod angen i chi eu dirprwyo yn ystod triniaeth?
  • A fydd angen unrhyw gymorth arnoch gartref?

Efallai y bydd y daflen Macmillan hon o gymorth: ‘Getting ready for treatment

Cefnogaeth a chymorth pellach:

Mae’r cyngor ar y tudalennau hyn wedi’i gynllunio i’ch helpu i baratoi ar gyfer y driniaeth sydd o’ch blaen a’ch cefnogi hyd at adferiad.

Os oes angen rhagor o gyngor a chymorth arnoch, trafodwch hyn gyda’ch gweithiwr allweddol neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol.

  • Macmillan Cancer Support:
    0808 808 00 00
  • Maggie’s Cardiff:
    029 2240 8024
  • Tenovus Cancer Care:
    0808 808 1010
Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content