Bwyta'n dda
Mae bwyta deiet iach a chytbwys yn chwarae rhan bwysig wrth ofalu am ein hiechyd, ein llesiant a bod yn weithgar yn gorfforol.

Mae llawer ohonom yn treulio mwy o amser dan do ac yn mynd drwy newidiadau i’r ffordd rydyn ni’n byw a chysylltu ag eraill.
Diolch byth, mae sicrhau ein bod yn bwyta ac yfed cystal ag y gallwn yn rhywbeth yr ydym yn gallu ei reoli yn ystod y cyfnod ansicr hwn, sy’n un ffordd bwysig o ofalu am ein cyrff a’n meddyliau.
Fitamin D
Mae fitamin D yn helpu i reoleiddio faint o galsiwm a ffosffad sydd yn y corff.
Mae angen y maetholion hyn i gadw esgyrn, dannedd a chyhyrau’n iach.
Mae ein cyrff yn gwneud fitamin D o dan y croen pan fyddwn allan yng ngolau dydd. Mae hyd yn oed deiet iach a chytbwys sy’n rhoi’r holl fitaminau a daioni eraill sydd eu hangen arnoch yn annhebygol o roi digon o fitamin D.
Gyda llawer ohonom yn treulio mwy o amser dan do yn ystod pandemig COVID-19, efallai y bydd llawer ohonom yn cael trafferth cynhyrchu digon o Fitamin D yn naturiol. Dysgwch fwy gan Gymdeithas Deietegwyr y DU am sut i sicrhau eich bod yn cael digon o Fitamin D, neu gwyliwch y fideo canlynol.