Ffair Iechyd a Lles

Dydd Mawrth 16 Mai 2023, 10am - 5pm

yn Neuadd Goffa'r Barri, Heol Gladstone, CF62 8NA
Leading a healthy lifestyle

Ar 16 Mai, cynhaliwyd ein Ffair Iechyd a Lles gyntaf mewn partneriaeth â Race Equality First i gefnogi pobl leol i wella eu hiechyd a’u lles.

Gyda chefnogaeth Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, daeth amrywiaeth enfawr o bartneriaid at ei gilydd yn y ffair yn y Barri.

Hoffem ddiolch i Tesco, ASDA a Sefydliad Gweithgaredd Corfforol, Iechyd a Chwaraeon Cymru am eu cefnogaeth.

Trefnir mewn partneriaeth â

Race Equality First
CAV Watermark

Diolch i’n noddwyr:

 

Cardiff and Vale Health Charity | Elusen Iechyd Caerdydd a'r Fro
Tesco
Sefydliad Gweithgaredd Corfforol, Iechyd a Chwaraeon Cymru | Welsh Institute of Physical Activity, Health and Sport
ASDA logo

Ein Stondinau

Dewch i siarad â ni am sut rydym yn cefnogi pobl o bob oed i fyw a heneiddio’n dda ym Mro Morgannwg.

Mae tîm Live Well with Hearing Loss yn gweithio ledled Cymru i gefnogi’r rhai sy’n colli eu clyw. Rydym yn darparu Gwasanaeth yn y Cartref, Gwasanaeth Ôl-Ddiagnostig a Gwasanaeth Cyfeillio.

Byddwn yn darparu awgrymiadau, gwybodaeth a dangos i bobl sut y gallan nhw fwyta’n iach mewn ffordd fforddiadwy. Dysgwch fwy ar ein gwefan Sgiliau Maeth am Oes

Dewch i glywed am y gweithgareddau rydym yn eu cynnal i hyrwyddo iechyd a lles pob dyn, menyw a phlentyn yn ein cymuned.

Dewch i ddarganfod mwy am ein pêl-droed cerdded i ddynion dros 50 oed a menywod dros 45 oed.

Mae saith practis meddygon teulu yn gweithredu yn ardal Clwstwr Canol y Fro. Byddwn yn siarad am sut y gallwch chwarae rhan weithredol wrth reoli eich iechyd a chael mynediad at y gofal sydd ei angen arnoch.

Byddwn yn rhannu gwybodaeth ac yn arddangos y Coleg Adfer a Lles sy’n cynnig amrywiaeth o gyrsiau sy’n canolbwyntio ar iechyd meddwl ac adfer; wedi ei gyd-gynhyrchu gan, ac yn agored i bobl â heriau iechyd meddwl, gofalwyr a staff.

Mae ein fforwm yn cyfarfod bob pythefnos ar-lein, gan roi cyfle i gydweithio i gyd-gynhyrchu ffyrdd gwahanol o gefnogi pobl â chyflyrau tymor hir yng Nghaerdydd a’r Fro. Mae’r fforwm yn agored i unrhyw un sy’n angerddol am wella iechyd a lles pobl Caerdydd a’r Fro. Rydym yn croesawu…

  • Defnyddwyr y gwasanaeth
  • Sefydliadau cymunedol
  • Y trydydd sector
  • Staff gofal iechyd

Mewn partneriaeth ag Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae Down to Earth wedi dylunio a datblygu Ein Dôl Iechyd mewn 14 erw o dir yn Ysbyty’r Brifysgol Llandochau (UHL), Penarth, Bro Morgannwg.

Gyda chleifion a staff wrth wraidd y prosiect, mae Down to Earth yn gweithio’n agos gyda’r partneriaid hyn i ddylunio a darparu seilwaith gwyrdd a phresgripsiynu cymdeithasol ar y raddfa a fynnir gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, datganiad Argyfwng Hinsawdd Llywodraeth Cymru a brys cwymp bioamrywiaeth. Mae’r prosiect wedi’i ariannu drwy raglen Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant Llywodraeth Cymru a rhaglen Cronfa Dreftadaeth Coetiroedd Cymunedol.

ESCAPEES yw pobl sydd wedi cymryd rhan yn y rhaglen ESCAPE Pain ac wedi graddio ohoni. Mae ESCAPEES yn cymryd rhan mewn gweithgareddau y maen nhw’n eu mwynhau er mwyn parhau i wella eu hiechyd a byw’n dda. Mae llawer yn dewis gwneud gweithgareddau gyda’i gilydd, gan gefnogi ac annog ei gilydd, gyda hwyl a mwynhad yn rhan allweddol o’r profiad. Mae gwahanol ddewisiadau ar gael i ESCAPEES ymuno a mwynhau gan gynnwys dosbarthiadau ymarfer corff cyffredinol, Cerdded Nordig a Tai Chi.

Digwyddiadau ESCAPEE

Mae ESCAPE Pain yn rhaglen adsefydlu sydd wedi’i chynllunio’n benodol i gefnogi pobl â phoen cymalau clun a phen-glin, a phoen cefn. Mae’r rhaglenni hyn yn cael eu cyflwyno o’r canolfannau hamdden lleol gan dîm o hyfforddwyr adsefydlu gyda phrofiad o gefnogi pobl sydd â phoen yn y cymalau i wella a byw’n dda.

Dysgwch sut y gallwch chi gael mynediad at Ffisiotherapydd yn eich practis meddyg teulu ac yn Ysbyty’r Barri. Siaradwch â’n ffisiotherapyddion am gynyddu eich lefelau gweithgaredd

Dysgwch am Ffisiotherapi Iechyd y Pelfis a sut i gael mynediad i’r gwasanaethau rydyn ni’n eu cynnig yn yr ardal. Sgwrsio â’n Ffisiotherapyddion i gael cyngor am sut i gadw’n heini gydag unrhyw faterion iechyd y pelfis.

Mae dementia yn newid bywydau. Mae elusennau fel ni yn newid bywydau hefyd! Forget-me-not Chorus ydyn ni – elusen sy’n hyrwyddo llawenydd canu i bobl sy’n byw gyda dementia, a’r rhai sy’n eu cefnogi. Dewch i ymweld â ni ar ein stondin.

Grŵp i rai dros 50 oed gadw’n heini drwy ymarfer pob cyhyr yn y corff drwy ddefnyddio dull Cerdded Nordig Prydain. Does dim rhaid talu a gallwn fenthyca polion cerdded i chi.

Nod Gwasanaeth Adnoddau Cymunedol y Fro yw cefnogi a darparu therapi i bobl yn y gymuned er mwyn helpu i gynnal eu hannibyniaeth gartref. Rydym yn helpu i gefnogi’r rhai sy’n cael eu rhyddhau o’r ysbyty a hefyd yn darparu cefnogaeth i osgoi derbyniadau i’r ysbyty.

Cliciwch yma i ymweld â’r wefan

Dewch i elwa o’n Clinigau Cadw’n Sefydlog a’n Gwasanaeth Ymateb i Gwympiadau. Gall ffisiotherapydd sy’n arbenigo mewn cwympo gynnig cyngor wedi’i deilwra i chi er mwyn lleihau risg cwympiadau

Cliciwch yma i ymweld â’r wefan

Dewch draw i ddarganfod sut mae Age Connects yn cefnogi pobl hŷn ynysig ledled Caerdydd a’r Fro.

Gallwn roi gwybod i chi am wasanaeth Byw’n Iach Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac am y wefan Cadw Fi’n Iach, a sut y gall eich helpu i wella eich iechyd a’ch lles.

Rydym yn darparu gwybodaeth ac arweiniad ar bob agwedd ar wirfoddoli.

Cyfle i feithrin eich hyder, sgiliau a chael profiad gwaith gwerthfawr iawn.

Darganfyddwch sut rydym yn darparu gofal a chymorth pwrpasol i alluogi pobl i fyw bywydau cyfoethog, annibynnol yn eu cartrefi eu hunain ac allan yn eu cymunedau lleol.

Mae ein Hwb Iechyd Meddwl a Llesiant ar gyfer Cymunedau Lleiafrifoedd Ethnig. Rydym yn cynnig cefnogaeth un i un i bobl sydd â salwch meddwl. Rydym yn cymryd agwedd gyfannol at adferiad sydd wedi’i deilwra i bob unigolyn.

Mae mwy o wybodaeth am yr Hwb Iechyd Meddwl a Llesiant ar safle Diverse Cymru.

Mae eich llais yn chwarae rhan hanfodol yn eich bywyd bob dydd, ond mae’n hawdd ei gymryd yn ganiataol. Mae crygni dros dro yn digwydd i bawb bron ac mae gan bron i 20% o boblogaeth y DU rywfaint o anhawster lleisiol tymor hir. Mae’r nifer hwn yn llawer uwch mewn galwedigaethau llais-dwys fel addysgu ac mewn canolfannau galwadau. Dewch i ymweld â’r stondin Therapi Lleferydd ac Iaith i ddysgu sut i gadw eich llais yn iach ac yn gryf.

Bwriad Mentro i Freuddwydio yw cefnogi iechyd a lles emosiynol oedolion yng Nghymru sy’n byw ag un neu ragor o afiechydon corfforol – sef bron i hanner y boblogaeth!

Mae’n cyfoethogi bywydau drwy symud wrth chwalu’r rhwystrau a chreu priodoleddau cadarnhaol am fywyd ym Mro Morgannwg.

Siaradwch â phodiatregydd a darganfod sut y gallwn ni weithio gyda’n gilydd i gadw’ch traed yn iach.

Dewch i glywed am sut mae Race Equality First yn darparu eiriolaeth iechyd ar gyfer cymunedau du a lleiafrifoedd ethnig.

Rydym yn trefnu hyfforddiant pêl-fas a phêl-feddal a gemau i bobl ifanc yng Nghymru. Rydym hefyd yn gweithio gydag oedolion, fel rhan o ddyddiau iechyd meddwl a llesiant. Rydym hefyd yn hwyluso Pêl-fas i’r Deillion

Gallwn ddweud popeth wrthych am wasanaethau Re-engage ar gyfer y rhai 75+ oed ym Mro Morgannwg.

Rydym yn darparu ystod o gyrsiau iechyd a lles hunanreoli rhad ac am ddim a gweithdai ar gyfer pobl sy’n byw gyda chyflyrau iechyd hirdymor neu rai sy’n gofalu am rywun sydd â chyflwr iechyd.

Darllenwch amdanom ni yma.

  • Sgwrsiwch â thîm Rhoi’r Gorau i Ysmygu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro am sut y gallant gefnogi pobl i roi’r gorau iddi neu leihau ysmygu.

Rydym yn elusen ac yn fenter gymdeithasol sy’n helpu pobl hŷn i hel atgofion, ailchwarae ac ailgysylltu drwy bŵer chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Wedi’i lansio yn 2010, mae Sporting Memories yn cefnogi ystod eang o bobl dros 50 oed, gan gynnwys y rhai sy’n byw gyda dementia, yn byw gydag iselder neu’n wynebu unigedd ac unigrwydd i wella eu lles meddyliol a chorfforol drwy ein sesiynau clwb rheolaidd, sydd wedi’u lleoli mewn cymunedau lleol ledled Lloegr, yr Alban a Chymru.

Byddwn ni’n darparu canllaw i ddechreuwyr ar gyfer nofio a throchi dŵr agored gan gynnwys buddion iechyd, grwpiau nofio lleol, diogelwch dŵr, ymaddasu a mynediad diogel.

Nod y Tîm Byw’n Iach yw cefnogi iechyd a lles preswylwyr drwy gefnogi cyfranogiad mewn chwaraeon, gweithgaredd corfforol a chyfleoedd chwarae.

Rydym yn gweithio gydag ystod o bartneriaid i greu gweithgareddau newydd, a datblygu gweithgareddau presennol ymhellach, ar gyfer pobl o bob oed ym Mro Morgannwg, gan ganolbwyntio ar dargedu preswylwyr gyda chyfraddau cyfranogi isel.

Mae Tîm Iechyd Cyhoeddus Lleol Caerdydd a’r Fro yn gweithio gyda phartneriaid allweddol ledled Caerdydd a’r Fro i wella iechyd a lles ac ansawdd gwasanaethau gofal iechyd, a hefyd i ddiogelu iechyd ein cymunedau lleol.

Mae Valeways yn bodoli i annog a helpu pobl o bob oed a gallu i gerdded er mwyn gwella eu hiechyd corfforol a meddyliol. Maent hefyd yn gweithio’n galed i gadw holl lwybrau troed y Fro ar agor ac yn hygyrch i gynifer o bobl â phosibl.

Mae With Music In Mind yn cynnal grwpiau cymdeithasol yn y gymuned i unrhyw un dros 50 oed. Mae rhai o’n grwpiau yn canolbwyntio ar ganu a rhai ar ymarfer corff ysgafn. Ar hyn o bryd mae grwpiau yn y Barri, Llanilltud Fawr, Penarth a’r Bont-faen ac rydym yn gweithio gyda phobl ag amrywiaeth o gyflyrau tymor hir fel dementia.

  • Ai eistedd yw’r ysmygu newydd

  • Darganfyddwch sut y gall unrhyw un fwynhau manteision ymarfer corff.

Mae Tracey yn arbenigo mewn Zumba® Gold a Seated Zumba® Gold. Mae’r ddau yn ffyrdd gwych o gryfhau’r esgyrn a’r cyhyrau 

Amnest Cymhorthion Cerdded

Oes gennych chi gymhorthydd cerdded nad yw’n cael ei ddefnyddio yn y tŷ?
Dewch ag ef i’r Ffair Iechyd a Llesiant er mwyn i ni ei lanhau er mwyn ei ailddefnyddio. Byddwn yn fwy na hapus i dderbyn ffyn cerdded metel, baglau, fframiau cerdded/pulpudau a cherddwyr gydag olwynion.

Ein Gweithdai

Amser
Cynnwys
Lleoliad

11:00

Sesiwn Gwybodaeth am y Menopos a Gweithgaredd dan Arweiniad Meddyg Teulu

Neuadd Bedwas

11:30

Mentro i Freuddwydio

Neuadd Bedwas 

11:30

Sesiwn cerdded Nordig dan arweiniad hyfforddwr. Darperir polion.

Cyfarfod wrth y brif fynedfa

12:00

Sesiwn ymarferol Zumba ar eich eistedd dan arweiniad hyfforddwr

Neuadd Bedwas

12:30

Sesiwn Tai Chi Qigong Shibashi dan arweiniad hyfforddwr

Neuadd Bedwas

1:00

Gweithdy With Music in Mind

Neuadd Bedwas

1:30

Ymarfer Corff i Bawb

Neuadd Bedwas

2:00

Escape – sesiwn wybodaeth am ddosbarthiadau Cefn, Clun a Phen-glin Escape

Neuadd Bedwas

2:30

Sesiwn gwybodaeth Iechyd Meddwl a Gweithgareddau dan arweiniad Ffisiotherapydd

Neuadd Bedwas

3:00

Symudiad Creadigol gyda Motion Control Dance

Neuadd Bedwas

3:30

Down to Earth

Neuadd Bedwas

3:30

Sesiwn cerdded Nordig dan arweiniad hyfforddwr. Darperir polion.

Cyfarfod wrth y brif fynedfa

4:00

Bwyta’n Iach ar Gyllideb dan arweiniad deietegydd

Neuadd Bedwas

Organised in partnership by

Race Equality First
CAV Watermark

Thank you to our supporters:

Cardiff and Vale Health Charity | Elusen Iechyd Caerdydd a'r Fro
Tesco
Sefydliad Gweithgaredd Corfforol, Iechyd a Chwaraeon Cymru | Welsh Institute of Physical Activity, Health and Sport
ASDA logo
Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content