Ffisiotherapi Iechyd y Pelfis
Mae tîm Ffisiotherapi Iechyd y Pelfis yn asesu ac yn trin anhwylderau ar y pelfis a llawr y pelfis.
Rydym yn arbenigo mewn trin:
- Problemau â’r cyhyrau a’r cymalau (cyhyrysgerbydol) sy’n gysylltiedig â beichiogrwydd, gan gynnwys poen yn y cluniau, y cefn a’r gwregys pelfig
- Gwahaniad cyhyrau’r abdomen ar ôl geni (rectus abdominus diastasis)
- Problemau â’r bledren gan gynnwys angen pasio wrin ar frys, yn aml neu golli rheolaeth wrth basio wrin
- Syndrom poen y bledren
- Problemau â’r coluddyn, gan gynnwys anymataliaeth, brys, rhwymedd a thrafferth gwacáu’r coluddion
- Cwymp organau’r pelfis
- Poen cronig yn y pelfis
- Adferiad llawr y pelfis ar ôl geni, gan gynnwys rhwygau perineol gradd 3 neu 4 neu broblemau â’r bledren neu’r coluddion
- Ymddatodiad clwyf perineol
- Poen perineol
- Syndrom twnnel y carpws yn ystod beichiogrwydd
Rydym wedi datblygu llyfrgell o daflenni a fideos am y problemau a’r cyflyrau gwahanol hyn.
- Cyngor ar newidiadau i’r ffordd o fyw a’ch gweithgarwch corfforol
- Rhaglenni ymarfer corff personol
- Grŵp rhithiol ar gyfer poen yng ngwregys y pelfis a’r cefn yn gysylltiedig â beichiogrwydd
- Therapi â llaw, gan gynnwys technegau llacio
- Bioadborth – offer arbenigol i wella gweithrediad arferol cyhyrau llawr y pelfis
- Ysgogiad trydanol niwrogyhyrol – offer arbenigol i gynyddu ymwybyddiaeth a chryfder cyhyrau llawr y pelfis
- Aciwbigo
- Darparu offer e.e. baglau
- Triniaeth ar gyfer ymddatodiad clwyfau perineol neu hematoma
I fanteisio i’r eithaf ar eich triniaeth, rydym yn gofyn i’n cleifion wneud y canlynol:
- Gwyliwch ein fideos
- Cadwch at eich rhaglen ymarfer
- Llenwch y siartiau a’r ffurflenni angenrheidiol
- Ymrwymwch i’n polisi presenoldeb – gallwch ei ddarllen yma
- Cwblhewch gwrs llawn o driniaeth
- Rhowch wybod i’ch ffisiotherapydd am unrhyw broblemau neu bryderon yn ymwneud â’ch triniaeth
Rydym yn derbyn cyfeiriadau gan feddygon teulu (meddygaeth teulu), meddygon ymgynghorol, ymwelwyr iechyd, gwasanaethau ymataliaeth, therapyddion eraill a bydwragedd.
Ein polisi presenoldeb
Er mwyn cadw’r rhestrau aros ar gyfer apwyntiadau mor fyr â phosibl i bob un o’n cleifion, dywed Polisi Mynediad Cleifion Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro:
- Os na fyddwch yn mynychu eich apwyntiad, rhaid i chi gysylltu â’r adran y diwrnod hwnnw i beidio â chael eich rhyddhau.
- Os byddwch yn canslo dau apwyntiad neu’n peidio â chysylltu â ni i aildrefnu cyn pen mis ar ôl canslo, byddwch yn cael eich rhyddhau.
Mae’r polisi hwn yn berthnasol i apwyntiadau wyneb-yn-wyneb ac apwyntiad rhithiol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y polisi presenoldeb hwn, siaradwch ag aelod staff a byddwn yn fodlon ei drafod â chi.
Adnoddau Iechyd y Pelfis
Cliciwch y blychau isod am fwy o wybodaeth ac arweiniad ar Ffisiotherapi Iechyd y Pelfis.

Sesiynau Grwpiau Rhithiol
Gwybodaeth ac arweiniad ar ein sesiynau Grwpiau Rhithiol

Cwestiynau Cyffredin
Dewch o hyd i atebion i’ch cwestiynau am Ffisiotherapi Iechyd y Pelfis
Ble i ddod o hyd i ni
Mae timau Ffisiotherapi Iechyd y Pelfis Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi’u lleol yn:
Ysbyty Athrofaol Cymru
Cleifion Allanol Ffisiotherapi
Llawr 1af (Ward A a B)
Adain Lakeside
Ysbyty Athrofaol Cymru, Parc y Mynydd Bychan
Caerdydd, CF14 4XW
Mae Adain Lakeside wedi’i lleoli gyferbyn â phrif fynedfa a chyntedd yr ysbyty, wrth ochr y llyn.
Ysbyty Brenhinol Caerdydd
Adran Ffisiotherapi
Glossop Terrace
Caerdydd
CF24 0SZ
Wedi’i lleoli yn yr Adran Cleifion Allanol Therapïau, sydd wedi’i lleoli ar ochr dde’r coridor wrth i chi ddod i mewn drwy brif fynedfa’r ysbyty.
Ysbyty’r Barri
Prif Adran Cleifion Allanol
Canolfan Iechyd y Pelfis
Ysbyty’r Barri
Colcot Road
Y Barri
CF62 8YH
Mae Canolfan Iechyd y Pelfis wedi’i lleol yn y Brif Adran Cleifion Allanol ar lawr gwaelod yr ysbyty.
Sylwer nad yw ein holl wasanaethau ar gael ar y safleoedd hyn. Siaradwch â’ch ffisiotherapydd am fwy o wybodaeth.
Hefyd yn yr adran hon
Os oes gennych unrhyw ymholiadau BRYS yn ymwneud â Ffisiotherapi Iechyd y Pelfis, ffoniwch 02920 335717 a gadewch neges ar y peiriant ateb. Byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted ag y gallwn.