Cadw Fi'n Iach - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Poen yn y droed a’r ffêr

Sut mae’r Droed a’r Ffêr yn gweithio?

Mae’r droed yn un o’r rhannau mwyaf cymhleth ac ymaddasol eich corff ac mae’n cynnwys 26 o esgyrn a 33 o gymalau bach.

Mae gan y cymal ffêr 3 asgwrn sy’n ffurfio 2 gymal:

  • Gwir gymal y ffêr – sy’n caniatáu i’r ffêr symud i fyny ac i lawr
  • Y cymal sydd o dan asgwrn y talws – sy’n galluogi symud y droed o ochr i ochr.

Mae’r cymalau’r droed a’r ffêr yn cael eu cynnal gan feinweoedd meddal sy’n cynnwys cyhyrau, tendonau a gewynnau sy’n rhoi symudiad a sefydlogrwydd, gan ganiatáu i’n troed a’n ffêr addasu i bob math o arwynebau. Mae’r cymalau wedi’u gorchuddio â chartilag sydd ag arwyneb llyfn, llithrig sy’n caniatáu i bennau’r esgyrn symud yn erbyn ei gilydd heb ffrithiant ac yn helpu i amsugno sioc.

 

Achosion Poen Traed a Ffêr

Gall poen traed a ffêr effeithio ar bobl o bob oed. Y rhan fwyaf o’r amser ceir esboniad syml iawn am boen yn y rhan hon o’r corff a nid oes angen pelydr-x i wneud diagnosis o’r broblem.

Os ydych wedi’i gor-wneud hi wrth wneud ymarfer corff, mae poen fel arfer yn cael ei achosi gan feinweoedd meddal sydd wedi’u straenio neu eu llidio, fel arwynebau’r cymalau neu’r tendonau ac mae’n aml yn clirio o fewn ychydig ddyddiau i wythnosau. Weithiau gall newid esgidiau i rai sy’n rhoi llai o gynhaliaeth achosi llid mewn meinweoedd meddal a gall gwisgo esgidiau sy’n rhoi mwy o gynhaliaeth neu gyflwyno’ch esgidiau newydd yn araf eich helpu.

Wrth i chi fynd yn hŷn, gall newidiadau arferol i arwynebau’r cymalau yn eich troed neu’ch ffêr achosi i’r poen yn y cymalau waethygu bob hyn a hyn, yn aml heb reswm. Maent fel arfer yn setlo drwy newid eich gweithgareddau, gan wisgo esgidiau sy’n rhoi cynhaliaeth a gwneud ymarfer corff syml.

Weithiau gall poen neu wahanol synwyriadau fel diffyg teimlad neu fod â phinnau bach gael eu trosglwyddo o rannau eraill o’r corff fel y cefn. Gelwir hyn yn boen dargyfeiriedig.

 

Os ydych wedi dioddef trawma ac:

  • Wedi troi eich ffêr a chwympo i’r llawr
  • Gollwng rhywbeth trwm ar eich troed
  • Mae’ch ffêr neu’ch troed yn chwyddo’n gyflym
  • Rydych chi’n ei chael hi’n anodd rhoi pwysau ar eich coes

efallai y bydd angen i chi weld meddyg. 

Dylech ffonio 111.

Nodwch, os ydych chi’n meddwl eich bod wedi torri unrhyw fysedd traed ar wahân i’r bys troed mawr ac mae’r bys troed yn edrych yn syth heb unrhyw glwyf, y driniaeth yw cynnal y bys troed drwy ei strapio i’r bys troed nesaf ac addasu eich cerdded drwy roi pwysau drwy eich sawdl nes bod y boen yn gwella. Mae hyn fel arfer yn cymryd tua pythefnos i wella.

Fodd bynnag, os ydych wedi cael trawma i’r bys troed mawr dylech ffonio  111.

Os ydych wedi teimlo clec sydyn gyda neu heb boen yn y Gweyllen Ffêr dylech ffonio  111 ar frys i drefnu slot apwyntiad yn yr adran ddamweiniau ac achosion brys, gan fod posibilrwydd bach eich bod wedi rhwygo’r Gweyllen Ffêr.

Hunangymorth

Mae cadw’n heini yn rhan hanfodol o’ch triniaeth a’ch adferiad a dyma’r peth gorau y gallwch ei wneud ar gyfer eich iechyd.

  • atal y broblem rhag digwydd eto
  • cynnal eich lefelau ffitrwydd presennol – hyd yn oed os oes rhaid i chi newid yr hyn rydych yn ei wneud fel arfer, mae unrhyw weithgaredd yn well na dim
  • cadw eich cyhyrau a’ch cymalau eraill yn gryf ac yn hyblyg
  • cynnal pwysau corff iach

Argymhellir eich bod yn aros yn y gwaith neu’n dychwelyd i’r gwaith cyn gynted â phosibl yn ystod eich adferiad. Nid oes angen i chi fod yn rhydd o boen a symptomau i ddychwelyd i’r gwaith.

  • Gorffwys eich troed a’ch ffêr ond ceisiwch osgoi cyfnodau hir o beidio â symud o gwbl
  • Symud eich troed a’ch ffêr yn bwyllog am 10 i 20 eiliad bob awr pan fyddwch yn effr
  • Os oes gennych anaf i’r cyhyrau neu’r ligament, mae’r fideo hon  “The Running Clinic” yn gallu helpu cefnogi a rheoli eich adferiad.

  • Ceisiwch ddefnyddio’ch coes yn fwy i helpu eich troed a’ch ffêr a lleddfu’r boen
  • Defnyddiwch ganllaw i fynd i fyny ac i lawr y grisiau os oes un ar gael
  • Gwnewch beth bynnag y byddech fel arfer yn ei wneud gan gynnwys aros yn y gwaith, neu ddychwelyd i’r gwaith os yw’n bosibl
  • Ceisiwch osgoi chwaraeon neu godi pwysau trwm nes bod gennych lai o anesmwythdra a’ch bod yn gallu symud yn well. Cofiwch gynhesu’n llawn cyn i chi ddechrau gweithgareddau chwaraeon.
  • Os hoffech gael cyngor am feddyginiaeth neu ddulliau eraill o liniaru poen i’ch helpu i reoli eich poen yn well siaradwch â’ch Fferyllydd Cymunedol.
  • Gall meddyginiaeth poen helpu i leihau poen a’ch helpu i symud yn fwy cyfforddus, a all eich helpu i wella.
  • Wrth gymryd meddyginiaeth poen mae’n bwysig ei gymryd yn rheolaidd.

 Gwyliwch y fideo hwn ar sut i reoli eich cyflymder cyn dechrau’r fideos ymarfer corff.

Os ydych chi’n profi poen sylweddol yn ystod y fideo, rhowch y gorau i’r fideo a gofynnwch am gyngor gan eich meddyg teulu.

Dyma fideos defnyddiol os ydych chi’n cael rhai problemau gyda’ch troed a’ch ffêr:

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content