Cadw Fi'n Iach - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Fy Adferiad Corfforol

Mae bod yn actif yn ogystal â bwyta bwyd maethlon yn hanfodol i’ch helpu i wella.

Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, rydym yn annog dull o weithio ‘cam wrth gam’ er mwyn gwella iechyd y corff. 

Mae’r dull cam wrth gam yn canolbwyntio ar gymryd camau bach er mwyn cyrraedd eich nod o ran gweithgareddau corfforol. Dechreuwch gyda gweithgareddau syml dros gyfnodau byr, cyn gwneud pethau ychydig bach anoddach am gyfnodau hirach yn raddol.

Pacing icon

Os ydych chi wedi cael diagnosis o COVID hir, neu’n meddwl bod gennych chi COVID hir, mae’n bwysig gofyn am gyngor gan weithiwr iechyd proffesiynol cyn dechrau unrhyw therapi ymarfer corff graddedig. Efallai y byddwch angen therapi dan oruchwyliaeth neu arweiniad i helpu’r adferiad.

I’r rhan fwyaf o bobl, mae hyn yn golygu canfod eich lefel bresennol, ymarfer nes eich bod yn teimlo’n gyfforddus ac yna gwneud newidiadau bach. Mae man cychwyn pawb yn wahanol a bydd maint y newidiadau y gall pobl eu rheoli yn amrywio rhwng unigolion am sawl rheswm, gan gynnwys problemau iechyd a ffitrwydd blaenorol. 

Mae’n bwysig ymarfer ar y lefel gywir. Os byddwch chi’n ceisio gwneud gormod yn rhy fuan, mae perygl i chi ddioddef anaf neu flinder. Os nad ydych yn siwr, dechreuwch yn araf a chynyddu’n raddol. 

Gwyliwch y fideo hwn i gael cyngor ar sut i ymarfer cam wrth gam cyn dechrau’r rhaglenni ymarfer corff graddedig ar y wefan hon. 

Os hoffech chi ailddechrau gwneud ymarfer corff ysgafn ar ôl bod yn segur am gyfnod, mae gennym ni fideos ymarfer corff ysgafn y gallech chi roi cynnig arnynt.

Dosbarthiadau Egwyddorion Pilates a Dosbarth Pilates i Ddechreuwyr 

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content