Demensia

Gall gofalu am rywun â dementia fod yn heriol, ond gyda’r cymorth cywir gall fod yn werth chweil. Yng nghamau cynnar dementia, mae llawer o bobl yn gallu mwynhau bywyd yn yr un modd â chyn eu diagnosis. Ond wrth i’r symptomau waethygu, gall y person deimlo’n bryderus, dan straen ac ofnus oherwydd methu cofio pethau, dilyn sgyrsiau neu ganolbwyntio.

Mae’n bwysig cefnogi’r unigolyn i gynnal sgiliau, galluoedd a bywyd cymdeithasol gweithredol. Gall hyn hefyd helpu sut maen nhw’n teimlo amdanyn nhw eu hunain. Dysgwch fwy am ofalu am rywun â dementia ar wefan y GIG.

Dementia a COVID-19

Yn ystod pandemig COVID-19, mae’n bwysig bod person sy’n byw gyda dementia yn parhau i gael y cymorth sydd ei angen arno. Efallai y bydd angen mwy o gymorth arnynt ar hyn o bryd, er enghraifft wrth reoli meddyginiaeth a threfn arferol.

Dementia a newidiadau synhwyraidd

Mae dementia nid yn unig yn effeithio ar y cof ond mae’n gallu effeithio ar yr holl synhwyrau. Gwyliwch y fideo byr hwn gan ein tîm Therapi Galwedigaethol ar symbyliad synhwyraidd a sut y gallwn ni i gyd gefnogi pobl â dementia.

Dementia a cholli clyw

Bydd llawer o bobl â dementia hefyd yn byw gyda nam ar eu clyw. Mae tystiolaeth sy’n awgrymu bod pobl sydd wedi colli eu clyw hefyd yn fwy tebygol o ddatblygu dementia, er nad yw’n hysbys ar hyn o bryd pam mae hyn. Gall unrhyw golled mewn clyw sydd heb gael diagnosis hefyd wneud i symptomau dementia ymddangos yn waeth. Dysgwch fwy am ddementia a cholli clyw.

Adnoddau dementia pellach

Mae Tîm Cof Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi paratoi amrywiaeth o adnoddau sy’n ymwneud â dementia. Darllenwch yr adnoddau canlynol sy’n berthnasol i’ch maes angen, neu gweld adnoddau sy’n benodol i golli’r cof.
 

Digwyddiadau cymunedol sydd ar y gweill

Ebrill 2023
Ebr 03
03 Ebrill 2023
Hyb Grangetown, Plas Havelock, Grangetown
Caerdydd, CF11 6PA United Kingdom
Ebr 04
04 Ebrill 2023
Gwasanaeth Cymorth Iles Yr Hyb – Marie Curie, Ffordd Bridgeman
Penarth, CF64 3YR
Ebr 06
06 Ebrill 2023
Canolfan Gymunedol Cathays, 38 Teras Cathays, Cathays
Caerdydd, CF24 4HX United Kingdom
Ebr 10
10 Ebrill 2023
Hyb Grangetown, Plas Havelock, Grangetown
Caerdydd, CF11 6PA United Kingdom
Keeping Me Well logo

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content