Cadw Fi'n Iach - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Colli Clyw

Efallai eich bod wedi sylwi nad yw eich clyw cystal ag yr arferai fod, neu eich bod yn gofyn i bobl ailadrodd eu hunain.

Weithiau mae colli clyw yn digwydd yr un pryd â Tinitws, neu synau yn y clustiau neu’r pen, neu gall fod oherwydd cwyr clustiau. Os ydych chi’n teimlo yr hoffech gael gwirio’ch clyw, gofynnwch i’ch ymarferydd gofal iechyd eich cyfeirio at yr adran Awdioleg ar gyfer asesiad clyw.

Os ydych eisoes wedi cael eich cyfeirio at yr adran Awdioleg ac yn aros am apwyntiad, cofiwch y byddwn o bosibl yn cysylltu â chi dros y ffôn i gael rhagor o wybodaeth am natur eich colli clyw. Gall rhai problemau, fel Diffyg ar y Tiwb Eustachian, ymateb i hunan-driniaeth gydag Otovent.

Mae pawb yn teimlo’r fantais o allu deall yn well os ydyn nhw’n gallu gweld y person sy’n siarad â nhw. Mae’n bwysig eich bod yn gallu dilyn sgyrsiau, yn enwedig am eich iechyd, ac os oes angen i unrhyw un sy’n gofalu amdanoch wisgo mwgwd wyneb, yna gall ddeall yr hyn sy’n cael ei ddweud fod llawer yn anoddach, hyd yn oed heb unrhyw anhawster clyw.

Mae rhagor o wybodaeth am orchuddion wyneb ar gael ar Wefan RNID (Action on Hearing Loss) UK.

Ewch hefyd i wefan RNID (Action on Hearing Loss) Cymru i gael rhagor o wybodaeth leol a manylion cyswllt.

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content