Pendro

Mae tua un o bob pedwar o bobl yn cael pendro neu deimlo’n simsan a all eich gwneud yn bryderus am gwympo neu fynd allan ar eich pen eich hun. Gall ddigwydd am amryw o resymau, fel cwyr yn cronni yn nhiwb y glust sy’n achosi pigyn clust, colli clyw cosi, a Tinitws, neu gall bendro hefyd ddod yn fwy cyffredin wrth i bobl heneiddio. Mae rhywfaint o dystiolaeth i awgrymu bod rhai cleifion yn cael pendro fel rhan o’u symptomau COVID-19.

Mae gwefan Cymdeithas Ménière yn rhoi rhagor o wybodaeth am lawer o fathau o bendro ac anhwylderau cydbwysedd, ac yn rhoi manylion ymarferion ysgafn a all helpu i drin a rheoli symptomau pendro.

Gelwir un o’r achosion mwyaf cyffredin o bendro yn BPPV (Benign Paroxysmal Positional Vertigo). Gellir trin BPPV gartref. Arwyddion arferol y broblem hon yw episodau byrhoedlog o bendro troelli sydd fel arfer yn para am lai na munud. Mae’r rhain yn cael eu sbarduno gan symudiadau fel tipio’ch pen yn ôl, plygu ymlaen a throi drosodd yn y gwely.

Os ydych yn credu y gall fod BPPV arnoch, darllenwch y daflen hon am ragor o wybodaeth gan gynnwys sut i geisio ei drin eich hun.

Cofiwch efallai na fyddwch yn gallu trin eich BPPV gartref os oes gennych broblemau gwddf/cefn, poen difrifol, llewygu, trawiadau, neu os oes angen i chi weld meddyg am broblemau’r galon.

Os ydych chi’n meddwl nad ydych chi’n gallu trin y BPPV gartref, neu os ydych chi’n meddwl bod rhywbeth gwahanol yn achosi’ch pendro yr hoffech gael ei ymchwilio, cysylltwch â’ch ymarferydd gofal iechyd i ystyried cael eich atgyfeirio.

Keeping Me Well logo

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content