Mae rhywfaint o dystiolaeth i awgrymu y gall rhai cleifion gael pendro fel rhan o’u symptomau COVID-19. Weithiau, os ydych wedi bod yn sâl o’r blaen gyda fertigo, hyd yn oed os oedd hynny flynyddoedd lawer yn ôl, gall y symptomau hyn ddigwydd eto pan fydd y corff dan straen neu’n ymladd haint.
Mae gwefan Cymdeithas Ménière yn rhoi rhagor o wybodaeth am lawer o fathau o bendro ac anhwylderau cydbwysedd, ac yn manylu ar ymarferion ysgafn a all helpu i drin a rheoli symptomau pendro.
Os bydd y bendro hon yn parhau, ac yn eich atal rhag dilyn eich nodau iechyd, efallai y byddai’n lles i chi ofyn i’ch darparwr gofal iechyd eich cyfeirio at y tîm cydbwysedd o fewn yr adran Meddygaeth Awdiofestibwlaidd, lle gellir ymchwilio ymhellach i’ch pendro.
Dysgwch fwy am bendro drwy ymweld â’r dudalen we hon.