Orthopedeg
Mae orthopedeg yn arbenigedd sy’n ymdrin ag esgyrn, cymalau a’r meinweoedd meddal cysylltiedig gan gynnwys ligamentau, nerfau a chyhyrau. Mae llawdriniaeth orthopedig yn digwydd oherwydd problemau yn sgil: newidiadau arthritig, anafiadau, a phroblemau orthopedig cynhwynol.
Y prif lawdriniaethau orthopedig sy’n cael eu gwneud yw:
- Arthroscopi’r cymalau – llawdriniaeth sy’n cael ei gwneud gyda thoriadau llai yn y croen (endoriadau) i edrych ar feinwe meddal a’i drwsio.
- Arthroplasti – Rhoi cymal newydd cyfan neu rannau o gymal, fel arfer oherwydd arthritis.
- Llawdriniaethau cywiro – llawdriniaethau sy’n cael eu gwneud i fyrhau asgwrn, neu ei wneud yn hirach, neu er mwyn newid safle’r asgwrn. Mae hyn yn digwydd er mwyn ysgafnhau pwysau ar y cymalau.
Mae’r adran hon o’r wefan yn rhoi mwy o wybodaeth i chi am gadw’n iach ac ‘aros yn iach’ cyn eich llawdriniaeth. Mae hefyd yn cynnwys cyngor ar baratoi ar gyfer eich llawdriniaeth a sut i wella’n iawn ar ôl hynny.