Mae llawer o bethau yn gallu achosi problemau cymalau a chyhyrau. Un achos cyffredin yw arthritis. Mae arthritis yn gallu achosi cymalau poenus, wedi chwyddo ac mae’n gallu ei gwneud hi’n anodd i bobl symud a byw eu bywydau’n dda. Mae pethau gwahanol yn gallu achosi arthritis ond enwau’r prif rai yw osteoarthritis ac arthritis rhiwmatoid.
Dydy pawb sy’n dioddef o arthritis ddim yn dewis cael llawdriniaeth. Mae llawer o bethau y gallwch chi eu gwneud i helpu i reoli arthritis, gan gynnwys ymarfer corff a meddyginiaeth.
Gallwch chi dynnu’r baich oddi ar eich cymalau drwy ofalu am eich pwysau. Mae’n bosibl gwneud hyn drwy ddewis bwyta bwyd iach a gwneud ymarfer corff.
Gallwch chi ymarfer drwy wneud llawer o bethau, fel cerdded, garddio, dawnsio neu chwaraeon.
Pan fydd pobl yn fwy heini ac wedi paratoi yn well, maen nhw’n gwella’n gynt ar ôl llawdriniaeth ac yn teimlo’n well. Mae’n gallu helpu i leihau cymhlethdodau hefyd.
Rydyn ni’n gallu eich cefnogi chi mewn sawl ffordd er mwyn eich paratoi yn feddyliol ac yn gorfforol cyn y llawdriniaeth. Mae rhagor o fanylion isod.
Cadw’n Iach a Gofalu am eich Cymalau Cyn Llawdriniaeth
Ffôn: 07971 980 219
E-bost: cavtando.physio@wales.nhs.uk
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.