Yn y sesiwn hon, rydym yn siarad am sut mae eich meddylfryd yn effeithio ar sawl agwedd ar eich bywyd a’ch llesiant, a sut i ddatblygu agwedd feddyliol dda.
Mae paratoi meddyliol yr un mor bwysig â pharatoi’n gorfforol. Yn union fel cryfhau cyhyrau i fod yn gryfach ac yn fwy heini, mae angen i ni ymarfer a pharatoi ein meddyliau i fod yn fwy gwydn. Mae’n ffordd o gael ein meddwl yn barod i ymdopi â straen posibl y byddwn yn ei wynebu.
Yn y sesiwn Materion Meddylfryd, rydym yn trafod sut rydych chi’n gallu defnyddio anadlu bocs i’ch helpu i ymlacio. Byddwn hefyd yn awgrymu apiau sy’n olrhain cwsg, myfyrdod a thechnegau anadlu rydych chi’n gallu eu harchwilio a’u defnyddio yn eich amser eich hun.
Ffôn: 07971 980 219
E-bost: cavtando.physio@wales.nhs.uk
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.