Un ffordd o gadw’n heini a chael eich cymalau i symud wrth aros am lawdriniaeth yw gwneud ymarferion yn y dŵr fel nofio, cerdded yn y pwll neu ddosbarthiadau ymarfer corff yn y pwll.
Mae llawer o effeithiau cadarnhaol i ymarfer corff mewn dŵr, fel:
- Mynd â’r pwysau oddi ar gymalau poenus gân ei gwneud hi’n haws symud
- Gwella eich ffitrwydd cardiofasgwlaidd
- Gwella eich ystwythder
- Cryfhau eich cyhyrau
- Gwella eich cydbwysedd a’ch cydsymudiad
- Gwella eich hwyliau a’ch iechyd meddwl
Mae technoleg Good Boost yn gwneud yn siŵr bod pawb yn gallu elwa o weithgareddau yn y dŵr er mwyn gwella eu hiechyd a’u lles gymaint â phosibl drwy symud mwy, cael hwyl a theimlo’n well.
Mae unigolion yn defnyddio tabledau sy’n gwrthsefyll dŵr i’w harwain drwy raglen ymarfer corff sydd wedi’i chynllunio o gwmpas eu hanghenion. Gwneir hyn mewn sesiwn grŵp gyda phobl yn gweithio drwy eu set eu hunain o ymarferion ar eu cyflymder eu hunain.