Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, mae ein tîm o bodiatryddion yn cynnig asesiad, cyngor, arweiniad a thriniaeth, yn ôl yr angen, i’ch helpu â phroblemau â’ch traed.
Yn eich apwyntiad cyntaf bydd eich cyflwr yn cael ei asesu a bydd cwrs priodol o driniaeth yn cael ei gytuno a all gynnwys cyngor, cwrs byr o driniaeth neu, mewn rhai achosion, ofal mwy hirfaith. Rydyn ni’n eich cynnwys chi bob cam o’r ffordd.
Mae pob un o’n podiatryddion wedi’u cofrestru’n broffesiynol gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC). Mae’r sefydliad hwn yn cadw cofrestr o weithwyr iechyd a gofal proffesiynol gan gynnwys Podiatryddion sy’n bodloni’r safonau angenrheidiol ar gyfer eu hyfforddiant, sgiliau proffesiynol, ymddygiad ac iechyd. Gwiriwch y Gofrestr a dewch o hyd i weithiwr iechyd a gofal proffesiynol cofrestredig
Mae ein tîm o Bodiatryddion o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi rhoi cyfoeth o wybodaeth a chyngor at ei gilydd ar gyflyrau yn gysylltiedig â’r traed a’r fferau, ymarferion hunanofal a chymhorthion hunangymorth i’ch cefnogi wrth i chi ofalu am eich traed.
Cyn cysylltu â’r gwasanaeth Podiatreg neu yn y cyfnod cyn gweld Podiatrydd, rydym yn argymell eich bod yn darganfod beth gallwch chi ei wneud i helpu i ofalu am eich traed. Cliciwch y botymau isod am fwy o wybodaeth.
Os nad ydych yn gallu bod yn bresennol:
Dydd Llun i ddydd Gwener 9am – 12pm a 1.30pm – 4pm
Canolfan Rheoli Cleifion Podiatreg,
Gwasanaethau Podiatreg,
Ysbyty Brenhinol Caerdydd,
Heol Casnewydd,
Caerdydd
CF24 0SZ
Ar gyfer pob ymholiad, ffoniwch 02920 335135 neu anfonwch neges e-bost at Podcav@wales.nhs.uk
Os oes gennych chi broblem sydd ddim yn gwella fel y byddech yn ei ddisgwyl gyda hunanofal, cysylltwch â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol i gael cyngor. Gall fod yn feddyg teulu, fferyllydd, gwasanaeth podiatreg y GIG neu bodiatregydd preifat.
Gwnewch yn siŵr bod eich podiatregydd wedi’i gofrestru gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal ac edrychwch am y llythrennau HCPC ar ôl ei enw.
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.