Mân Weithdrefn Ewinedd
Beth yw Mân Weithdrefn Ewinedd?
Mae mân weithdrefn ewinedd yn sy’n cael ei gwneud i drin problemau ewinedd sy’n achosi poen, fel ewinedd y tyfu ar i mewn. Mae’n golygu tynnu rhan neu’r cyfan o’r casewin o dan anesthetig lleol. Mae’n cael ei wneud fel apwyntiad claf allanol ac mae’n para 1 awr.

Beth sy’n digwydd?
Bydd anesthetig lleol yn cael ei roi i waelod dwy ochr y bys troed i’w wneud yn ddideimlad.
Unwaith y bydd eich bys troed yn ddideimlad:
- Bydd cylch rwber bach (rhwymyn tynhau) yn cael ei roi ar y bys troed
- Bydd rhan problemus yr ewin yn cael ei dynnu, mewn rhai achosion bydd yr ewin cyfan yn cael ei dynnu
- Mae ffenol (cemegyn) yn cael ei roi ar wely’r ewin er mwyn atal yr ewin rhag aildyfu. Chi sy’n dewis a yw’r cemegyn yn cael ei ddefnyddio ai peidio, os nad ydych chi’n gwneud hynny, bydd yr ewin yn aildyfu ond mae’n debygol o fod yn broblemus yn y dyfodol
- Mae’r cylch rwber (rhwymyn tynhau) yn cael ei dynnu
- Mae gorchudd yn cael ei roi ar y bys troed
Beth sy’n digwydd wedyn?
- Byddwch chi’n cael cyfarwyddiadau llafar ac ysgrifenedig a phecyn gorchudd
- Bydd eich bys troed yn ddideimlad am hyd at 4 awr
- Dylech chi orffwys gyda’ch traed i fyny am 24 awr ar ôl y llawdriniaeth i leihau unrhyw waedu
- 24 awr ar ôl y llawdriniaeth bydd angen i chi dynnu’r gorchudd a rhoi un newydd o’r pecyn yn ei le
- Unwaith y bydd y gorchudd newydd yn ei le gallwch chi ddychwelyd i weithgareddau dyddiol arferol fel ysgol neu’r gwaith – byddwch yn ofalus gydag esgidiau a pheidiwch â bwrw’ch bys troed.
- Bydd angen i chi ailorchuddio’ch bys troed bob dydd nes iddo wella. Bydd hyn yn cymryd tua 6 wythnos.
Os oes angen i chi ddychwelyd i’r adran am adolygiad, cysylltwch â ni – 02920 335 135
Awgrymiadau defnyddiol
- Bydd angen i chi ddod â sandalau i’w gwisgo
- FYDDWCH CHI DDIM yn gallu gyrru adref o’r llawdriniaeth gan y bydd eich bys troed yn ddideimlad
- Mae’r rhan fwyaf o bobl yn teimlo ychydig iawn o boen, os o gwbl, ar ôl y llawdriniaeth ac yn ystod adferiad
- Wrth gael gwared ar y gorchudd swmpus y diwrnod ar ôl y llawdriniaeth, rydym yn argymell gwlychu’r gorchudd er mwyn ei gwneud yn haws i’w dynnu.
