Gofalu am eich Traed
Dyma ein hawgrymiadau defnyddiol ar gyfer gofalu am eich traed:
- Cadwch eich traed yn lân ac yn sych – yn enwedig rhwng y bysedd traed
- Edrychwch ar eich traed yn rheolaidd i wneud yn siŵr nad oes gennych doriadau neu ddoluriau, cochni, chwyddo neu gleisio
- Dewch i adnabod eich traed yn dda a gwybod beth sy’n normal
- Defnyddiwch leithydd (‘moisturiser’) os yw’ch croen yn sych fel nad yw’n cracio ac er mwyn gwella ei wead
- Ffeiliwch groen sych neu galed gan ddefnyddio ffeil traed neu garreg bwmis

Rhagor o wybodaeth
Materion croen
Gofulo am eich traed
Os oes gennych chi broblem sydd ddim yn gwella fel y byddech yn ei ddisgwyl gyda hunanofal, cysylltwch â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol i gael cyngor. Gall fod yn feddyg teulu, fferyllydd, gwasanaeth podiatreg y GIG neu bodiatregydd preifat.
Gwnewch yn siŵr bod eich Podiatregydd wedi’i gofrestru gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal ac edrychwch am y llythrennau HCPC ar ôl ei enw.