Hallux Limitus
Hallux Limitus yw pan fydd cymal y bawd troed yn mynd yn anystwyth ac yn aml bydd yn boenus wrth ei symud. Fel arfer mae hyn yn cael ei achosi gan osteoarthritis (arthritis traul) y cymal ar waelod y bawd.
Mewn rhai achosion mae’r cymal yn mynd yn gwbl anystwyth ac nid yw’n symud o gwbl – Hallux Rigidus.
Dyma rai o symptomau Hallux Limitus:
- Poen wrth symud y bawd troed
- Symudiad cyfyngedig i gymal y bawd oherwydd poen ac anystwythder
- Cymal y bawd yn chwyddedig ac yn gallu rhwbio ar esgidiau sy’n rhy gul
- Mwy o boen wrth wisgo esgidiau sodlau uchel neu rai â gwadnau hyblyg iawn.
Mewn llawer o achosion efallai nad yw’n glir pam eich bod wedi datblygu Hallux Limitus ond gall fod oherwydd:
- Anaf uniongyrchol
- Cyflyrau fel arthritis gwynegol neu gowt
- Y broses heneiddio arferol
- Newid yn nefnydd y traed
- Gorddefnyddio neu fân drawma dro ar ôl tro, er enghraifft swyddi sy’n cynnwys llawer o benlinio neu sgwatio a rhai chwaraeon fel pêl-droed.
Sut i drin Hallux Limitus
Ni fydd yr un o’r triniaethau hyn yn gwella Hallux Limitus ond dylent eich helpu i reoli’ch symptomau.
Os oes gennych gochni parhaus, gwres, poen neu chwydd nad yw’n bosibl ei esbonio gan gynnydd mewn gweithgaredd neu esgidiau’n rhwbio, gofynnwch am gyngor meddygol.
Gall esgidiau gyda gwadnau anhyblyg sydd wedi’u siapio ychydig yn grwn ar draws blaen y droed gyfyngu ar blygu’r cymal wrth gerdded a lleihau symptomau poenus.
- Gwisgwch esgidiau sy’n ffitio’n dda gyda sawdl isel a lasys, felcro neu strap.
- Ceisiwch beidio â gwisgo esgidiau gyda gwadnau tenau/hyblyg.
- Ceisiwch beidio â gwisgo sodlau uchel nac esgidiau cul.
- I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch y daflen sy’n rhoi cyngor ynghylch esgidiau.
Rhowch becyn iâ (neu becyn pys wedi’u rhewi) mewn lliain sychu llestri ar gymal y bawd am hyd at 20 munud bob dwy i dair awr.
Bydd tylino a symud blaen y droed yn dyner yn helpu i leihau anystwythder y cymal a gwella symudedd.
Gall mewnwadnau y gellir eu prynu dros y cownter neu fewnwadnau rhagnodedig helpu i gynnal a chymryd y pwysau oddi ar gymal y bawd troed.
Trafodwch gyda’ch fferyllydd neu feddyg teulu pa fath o feddyginiaeth lleddfu poen sy’n addas i chi.

Hefyd yn yr adran hon
Dylech roi cynnig ar y triniaethau hyn am o leiaf 12 wythnos. Os ydych yn sylwi ar welliant, parhewch i ddilyn y triniaethau hyd nes y bydd modd rheoli’ch symptomau.
Os ydych chi wedi dilyn y driniaeth am o leiaf 12 wythnos a dim modd rheoli’ch symptomau, cysylltwch â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol am gyngor. Gall fod yn feddyg teulu, fferyllydd, gwasanaeth podiatreg y GIG neu bodiatregydd preifat.
Gwnewch yn siŵr bod eich podiatregydd wedi’i gofrestru gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal ac edrychwch am y llythrennau HCPC ar ôl ei enw.