Gylchrediad Gwael
Mae Clefyd Rhydwelïol Perifferol (PAD), sydd hefyd yn cael ei alw’n gylchrediad gwael, yn un o gymhlethdodau rheolaeth wael o glwcos (siwgr) y gwaed ar gyfer eich traed a’ch coesau.
Gall lefelau uchel o HbAlc (glwcos y gwaed) achosi difrod i’r gwaedlestri a lleihau cylchrediad y gwaed yn eich coesau a’ch traed.

Mae’r ffactorau risg hyn yn bwysig iawn pan mae gennych chi ddiabetes. Gallant gyfrannu at ddifrod i’ch gwaedlestri a gwneud pethau fel strôc, clefyd y galon, clefyd yr arennau a thrychu’r troed neu fysedd y traed yn fwy tebygol.
Efallai na fyddwch yn cael unrhyw symptomau â PAD, a dyna pam mae’ch archwiliad traed Diabetig blynyddol yn cynnwys profi cylchrediad y gwaed.
