Mae eich cydbwysedd yn gallu dirywio wrth fynd yn hŷn neu ar ôl cael anaf. Gall hyn arwain at lai o symudedd, diffyg cydsymud a risg uwch o anafiadau pellach. Mae’r wybodaeth hon yn eich tywys drwy raglen o ymarferion syml y gallwch eu gwneud gartref. Mae’r ymarferion yn gynyddol er mwyn helpu i wella’ch cydbwysedd a chryfder eich cyhyrau.
Ystyriwch wneud yr ymarferion wrth ymyl wal neu gadair i ddechrau, er mwyn i chi allu gafael yn rhywbeth cadarn.
Mae teimlo rhywfaint o anesmwythyd yn beth arferol wrth wneud ymarfer corff ac ymestyniadau ond ni ddylai fod yn boenus. Os oes gennych boen newydd, neu os bydd eich symptomau presennol yn gwaethygu, rhowch y gorau i’r ymarferion.
Ar ôl 6-12 wythnos o ddilyn y cyngor, os nad yw eich problem yn gwella fel y byddech yn ei ddisgwyl gyda’r ymarferion hunanofal, dylech gysylltu â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol i gael cyngor.
Gall fod yn feddyg teulu, fferyllydd, gwasanaeth podiatreg y GIG neu bodiatregydd preifat. Gwnewch yn siŵr bod eich podiatregydd wedi’i gofrestru gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal ac edrychwch am y llythrennau HCPC ar ôl ei enw.
Sylwch ei bod hi’n gallu cymryd hyd at 6-8 wythnos o’r ymarferion dyddiol cyn i chi deimlo’r buddion.
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.