Tendinopathi Achilles
Mae tendinopathi Achilles yn gyflwr sy’n achosi poen, chwyddo ac anystwythder o fewn dwy ran wahanol o weyllen y ffêr (Achilles tendon) – yng nghefn y pigwrn ac ychydig yn uwch na’r sawdl.
Mae’r symptomau’n tueddu i fod yn waeth ar ôl gorffwyso, yn enwedig yn y bore. Credir ei fod yn cael ei achosi gan straen ailadroddus. I’r rhan fwyaf o bobl, mae symptomau tendinopathi Achilles fel arfer yn gwella o fewn 3-6 mis ar ôl dechrau triniaeth.
Dyma rai o’r ffactorau sy’n cyfrannu at tendinopathi Achilles:
- Gorddefnyddio
- Esgidiau anaddas
- Bod dros pwysau
- Newidiadau mawr wrth wneud ymarfer corff e.e. dwysach/amlach
- Gwneud gweithgareddau ar arwyneb caled/llethrog yn rheolaidd
- Anhyblygrwydd e.e. cyhyrau croth y goes yn dynn
- Rhai mathau o arthritis, megis spondylitis ymasiol (spondylitis ankylosing) neu arthritis soriatig
- Cymryd gwrthfiotigau am gyfnodau hir (ciprofloxacin ac ofloxacin yn bennaf)
Dyma rai triniaethau cyffredin:
- Addasu eich ffordd o fyw (gan gynnwys amgylchedd gwaith)
- Gorffwyso, osgoi gweithgaredd hir e.e. sefyll, cerdded a chwaraeon trawiad nerthol
- Strapio a thapio
- Colli pwysau
- Ymarferion ymestyn
- Defnyddio esgidiau cadarn
- Defnyddio mewnwadnau
- Defnyddio iâ i reoli poen a helpu i ddatchwyddo
Esgidiau sy’n ffitio’n dda, gyda gwadnau cadarn a lasys neu strap, sy’n rhoi’r gynhaliaeth orau i’ch traed. Os yw eich esgidiau’n rhy hyblyg, fydd eich traed ddim yn cael y cadernid a’r cymorth y maent ei angen.
Dylai eich esgidiau:
- fod yn ddigon dwfn a llydan i’r bysedd traed
- ffasnin ar ben yr esgid (lasys neu felcro)
- sawdl isel (3cm)
- gwadnau cadarn sy’n cadw eu siâp
Profwch eich esgidiau drwy eu plygu a throi’r gwadnau. Mae’n iawn gallu eu plygu rhywfaint bach, lle mae’r bysedd traed, wrth ddefnyddio ychydig o nerth ond dylai gweddill yr esgid aros yn gadarn.
Rydym yn argymell peidio defnyddio:
- esgidiau fflat (steil cynfas)
- sodlau hyblyg (steil gwadn glustog)
- esgidiau heb lasys
- pymps steil bale
Dyma’r mathau o esgidiau allai fod o fudd i’ch cyflwr (dydyn ni ddim yn cymeradwyo brandiau na gwefannau penodol):
- Nike Air Max – esgidiau ymarfer corff gyda gwadnau cadarn a mewnwadnau siglo o dan flaen y droed.
- Hoka One One – esgidiau rhedeg ar ffordd gyda ffitiad ehangach.
- JML Walkmaxx – esgid cerdded gyda gwadnau siglo.
The Healthy Footwear Guide esgid cerdded gyda gwadnau siglo.
Dim ond mewn esgidiau cadarn, sydd ddim yn siglo, y mae mewnwadnau (orthoses) yn effeithiol.
Gwisgwch eich mewnwadnau yn raddol dros gyfnod o amser. Dechreuwch ei gwisgo am awr ar y diwrnod cyntaf a chynyddwch fesul awr bob dydd nes i chi fod yn eu gwisgo drwy’r dydd. Astudiwch eich traed ar ôl eu defnyddio rhag ofn eu bod nhw’n rhwbio.
Mae ychydig o boen yn gyffredin ar y dechrau wrth i’ch cyhyrau addasu i’r mewnwadnau. Dylai hyn wella’n raddol wrth i chi eu defnyddio.
Os byddwch chi’n dioddef cochni, pothelli neu boen newydd neu fwy o boen, tynnwch y mewnwadnau.
Peidiwch â dal i ddefnyddio mewnwadnau os yw eich symptomau’n gwaethygu.
Dyma’r mathau o fewnwadnau sy’n gallu bod o fudd i’ch cyflwr (dydyn ni ddim yn cymeradwyo brandiau na gwefannau penodol):
- Mewnwadnau sawdl corcyn – bydd angen i chi gael un o’r rhain ym mhob esgid, hyd yn oed os mai dim ond un weyllen y ffêr sy’n broblematig.
Ar y dechrau, gall yr ymarferion yma fod o gymorth:
Yn ddiweddarach, gall yr ymarferion yma fod o gymorth:

Hefyd yn yr adran hon
Os oes gennych chi broblem sydd ddim yn gwella fel y byddech yn ei ddisgwyl gyda hunanofal, cysylltwch â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol i gael cyngor. Gall fod yn feddyg teulu, fferyllydd, gwasanaeth podiatreg y GIG neu bodiatregydd preifat.
Gwnewch yn siŵr bod eich podiatregydd wedi’i gofrestru gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal ac edrychwch am y llythrennau HCPC ar ôl ei enw.