Dyma rai cwestiynau cyffredin am Glinig Clwyfau Podiatreg Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
Toriad yn y croen yw clwyf. Gallai gael ei achosi gan ormod o bwysedd, esgidiau’n rhwbio neu gan drawma i’r croen.
Mae clwyf nad yw’n gwella yn wlser. Gall unrhyw un ddatblygu wlser troed.
Mae datblygu clwyfau troed ymhlith pobl â diabetes yn ddifrifol, yn enwedig os byddant yn dod yn heintiedig. Mae wlserau troed yn gysylltiedig â thebygrwydd uwch o orfod torri troed neu fysedd y traed i ffwrdd. Mae angen triniaeth Podiatreg reolaidd ar gyfer wlserau troed diabetig a bydd y Podiatrydd yn cytuno ar gynllun triniaeth â chi.
Ydy, gall pobl nad oes ganddynt ddiabetes ddatblygu wlser troed o hyd. Mae llawer o resymau pam na fydd clwyf yn gwella.
Os oes gan ran o’ch troed doriad yn y croen nad yw’n gwella, sy’n teimlo’n boeth, sy’n gwynegu neu’n boenus, sydd â rhedlif (yn diferu) neu’n drewi, rhowch orchudd sych, glân ar y clwyf a chysylltwch â’r tîm Podiatref – ffoniwch 02920 335135 – i drefnu i gael eich cyfeirio ac/neu i gael apwyntiad yn y clinig clwyfau.
Gweithredwch Nawr
Os oes gennych chi DDIABETES ac unrhyw un o’r symptomau uchod, cysylltwch â Podiatreg 02920 335 134/5, Llun – Gwener 09.00 – 12.00 neu 13.30 – 16.00.
Bydd eich manylion yn cael eu cymryd a bydd Podiatrydd yn dychwelyd eich galwad.
Mae gennym glinigau clwyfau sy’n cael eu cynnal gan y tîm Podiatreg ar draws safleoedd ysbytai Caerdydd a’r Fro. Mae apwyntiadau’n para tua 30 munud, fel arfer.
Bydd Podiatrydd â diddordeb arbennig mewn gofalu am glwyfau yn asesu ac yn trin y clwyf ar eich troed. Bydd cynllun triniaeth yn cael ei gytuno â chi, a fydd yn cynnwys cyngor ar esgidiau.
Gallwch, mae croeso i chi ddod â rhywun gyda chi i’r apwyntiad.
Gallwn ddangos i chi a’ch teulu sut i newid gorchudd.
Dyma fideo sy’n dangos sut i newid gorchudd syml.
Lawrlwythwch ‘Looking After Your Wound’ leaflet gan y Strategaeth Genedlaethol Gofal Clwyfau.
Os ydych yn gaeth i’r tŷ, gallwn ofyn i’r Nyrs Ardal ddod i’ch cartref i ail-orchuddio’r clwyf ar eich troed. Ffoniwch 02920 444501. Neu os na allwch fynd allan, gallwn drefnu i’ch nyrs practis ail-orchuddio’r clwyf ar eich troed.
Fel arfer, rydym yn gofyn i chi gadw’ch troed yn sych tra mae gennych chi glwyf ar eich troed. Gallwch brynu gorchudd gwrth-ddŵr er mwyn i chi allu parhau i gael cawod a chadw’r gorchudd yn sych.
Gallwch ddod o hyd i enghreifftiau o gynhyrchion diogelu gwrth-ddŵr trwy glicio yma.
Canolfan Rheoli Cleifion Podiatreg,
Gwasanaethau Podiatreg,
Ysbyty Brenhinol Caerdydd,
Heol Casnewydd,
Caerdydd
CF24 0SZ
Ar gyfer pob ymholiad, ffoniwch 02920 335135 neu anfonwch neges e-bost at Podcav@wales.nhs.uk
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.