Gofalu am eich Ewinedd
Play Video about Clipping nails with a nail clipper
Gwnewch yn siŵr bod gennych yr offer cywir cyn i chi ddechrau torri eich ewinedd traed. Mae gwahanol fathau o glipwyr ewinedd ar gael mewn fferyllfeydd, archfarchnadoedd ac ar y rhyngrwyd.
Efallai y bydd angen i chi eistedd a rhoi eich troed ar stôl er mwyn gwneud pethau’n haws.
- Torrwch eich ewinedd yn syth ar draws a defnyddiwch ffeil i lyfnhau ymylon garw
- Peidiwch â thorri eich ewinedd yn rhy fyr na thorri i lawr yr ochrau
- Peidiwch â cheisio procio unrhyw beth i lawr ochr eich bysedd traed
- Defnyddiwch frwsh ewinedd meddal i gadw’ch ewinedd yn lân
Mae llawer o bobl yn defnyddio ffeil ewinedd i gadw eu hewinedd yn gyfforddus.
- Defnyddiwch ffeil ewinedd neu fwrdd emeri o ansawdd da
- Daliwch y ffeil dros yr ewinedd a’i thynnu’n ysgafn oddi wrthych
- Peidiwch â ffeilio’r ewinedd yn rhy agos at y croen
- Gwnewch hyn 1-2 gwaith yr wythnos i gadw’ch ewinedd yn dwt