Podiatreg Cyhyrysgerbydol
Mae Podiatreg Cyhyrysgerbydol yn faes arbenigol o’r gwasanaeth sy’n canolbwyntio ar reoli cyflyrau sy’n gallu effeithio ar gyhyrau, meinweoedd meddal ac uniadau’r droed, y pigwrn a gwaelod y goes.

Mae poen yn gallu cael ei achosi gan anaf strwythurol, gweithredol neu flaenorol sy’n arwain at broblemau gyda’ch traed a’ch pigyrnau. Gall poen traed a phigwrn achosi anghysur ac effeithio ar weithgarwch bob dydd a’r gallu i wneud ymarfer corff.
Asesu
- Rydym yn asesu, gwneud diagnosis, trin neu gyfeirio i helpu i ddatrys neu leihau’r boen a cholli gweithrediad drwy eich helpu i ddeall a rheoli cyflwr eich pigwrn neu’ch traed.
- Rydym yn arsylwi ar eich cerddediad a’ch cyfliniad osgo.
- Efallai y byddwn yn helpu i wella gweithrediad gan ganolbwyntio ar gryfder cyhyrau a hyblygrwydd.
- Efallai y byddwn yn darparu orthoses neu fewnwadnau i helpu gyda’ch poen a gwella gweithrediad.
Wrth fynd i apwyntiad Potiatreg Cyhyrysgerbydol, efallai bydd y Podiatrydd yn gwneud asesiad Biomecanyddol. Mae hyn yn cynnwys asesu eich traed, gwirio’r cymalau a symudiad yn eich traed a’ch pigyrnau, arsylwi eich patrwm cerdded / osgo, gwylio ystum traed wrth sefyll ac asesu cryfder y cyhyrau.
Triniaeth
Bydd y Podiatrydd yn trafod y triniaethau posibl, er enghraifft:
- cyngor, addysg a chynllun ymarfer cryfder cyhyrau / hyblygrwydd
- orthoses, mewnwadnau neu gynhaliadau pigwrn
- Therapi Tonnau Sioc Allgorfforol (SWT) – dim ond pan fyddai diagnosis wedi’i wneud o Ffasgitis Gwadnol (Plantar Fasciitis) / Tendinitis Achilles ( Achiles Tendinitis)
- Cyfeirio neu atgyfeirio at wasanaeth arall fel Radioleg, Ffisiotherapi neu Orthopedig
Cyflyrau cyffredin
Ymarferion
Offer defnyddiol

Hefyd yn yr adran hon
Dolenni defnyddiol
Gwybodaeth gyswllt
Canolfan Rheoli Cleifion Podiatreg,
Gwasanaethau Podiatreg,
Ysbyty Brenhinol Caerdydd,
Heol Casnewydd,
Caerdydd
CF24 0SZ
Ar gyfer pob ymholiad, ffoniwch 02920 335135 neu anfonwch neges e-bost at Podcav@wales.nhs.uk
Os oes gennych chi broblem sydd ddim yn gwella fel y byddech yn ei ddisgwyl gyda hunanofal, cysylltwch â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol i gael cyngor. Gall fod yn feddyg teulu, fferyllydd, gwasanaeth podiatreg y GIG neu bodiatregydd preifat.
Gwnewch yn siŵr bod eich podiatregydd wedi’i gofrestru gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal ac edrychwch am y llythrennau HCPC ar ôl ei enw.