Anffurfiadau Bysedd Traed

Sut ydych chi’n trin anffurfiadau bysedd traed?

Hunangymorth a thriniaethau cartref yw’r dull symlaf a gorau fel arfer.

  • lluniad o esgid addas gyda strap ar y topGwisgwch esgidiau call. Mae esgidiau sy’n ffitio’n wael, wedi treulio gormod, neu esgidiau sydd â steil neu siâp anghywir i chi yn rhoi pwysau diangen ar fysedd traed gan achosi croen poenus ac ewinedd problemus.
  • Ceisiwch osgoi gwisgo esgidiau tenau, gwastad neu sodlau uchel.
  • Ceisiwch osgoi bocs bysedd traed bas/bach.
  • Peidiwch â gwisgo esgidiau pigfain gyda semau dros rannau o’r droed sy’n ymwthio allan.
  • Esgidiau llydan gyda rhywbeth i’w cau sydd orau.

Darn o silicon sy'n ffitio rhwng bysedd traed i leihau rhwbioMae gwisgo amddiffynyddion a gwahanyddion bysedd traed yn gallu helpu i leihau rhwbio pennau bysedd traed a rhwng y bysedd.

Mae gwahanyddion yn help i sythu’r bysedd ac yn lleddfu’r pwysau sy’n cael ei achosi gan fysedd traed agos at ei gilydd.

Yn ddelfrydol, mae amddiffynyddion bysedd traed yn cael eu defnyddio ar fysedd traed sy’n amhosib eu sythu â llaw neu ar gyfer cyfnod adsefydlu.

Mae sawl math o amddiffynyddion a gwahanyddion ar gael yn eich fferyllfa leol neu ar-lein.

Diagram o'r esgyrn yn y traedLefel Un

Dyma dechneg syml sy’n gallu gwella poen traed a gweithrediad bysedd traed, yn enwedig o’u cyfuno â’r ymarferion cryfder ac ymestyn isod. Ni ddylai ymestyniadau fod yn boenus ond byddan nhw ychydig yn anghyfforddus wrth i chi ymestyn.

Mae gan fawd eich troed 2 ran ac mae gan y bysedd 3. Rydych chi’n debygol o gael canlyniad gwell ar fysedd traed sy’n symudol ond bydd rhywfaint o welliant yn bosibl gyda’r rhan fwyaf o anffurfiadau bysedd traed.

Eisteddwch yn gyfforddus a dechrau gweithio ar sythu un rhan yn unig o’r bawd/bys ar y tro – drwy ymestyn yn ysgafn. Daliwch hyn am 10-15 eiliad ac ymlacio. Ailadroddwch hyn 3 gwaith, 3 gwaith y dydd.
Unwaith y gallwch chi sythu un rhan yn gyffyrddus, symudwch i sythu 2 ran ar y tro ac yn olaf sythu’r bys troed cyfan.

Dal bysedd traed ag un llaw a ffêr gyda'r llall, tynnu bysedd traed yn ôl tuag at eich hunLefel Dau

Unwaith y byddwch chi’n gallu sythu’r bys cyfan – daliwch y bys cam yn syth a thynnu tuag i lawr nes bod ymestyniad i’w deimlo ar ben y droed – daliwch am 15 eiliad ac ymlacio. Yna tynnu’r bys i fyny nes bod ymestyniad i’w deimlo ar belen y droed – daliwch am 15 eiliad ac ymlacio. Ailadroddwch 3 gwaith i bob cyfeiriad 3 gwaith y dydd.

Gorffennwch bob sesiwn ymarfer drwy dynnu blaenau’r bysedd traed i fyny gan deimlo ymestyniad o dan belen y droed a’r bwa a thynnu tuag i lawr i deimlo ymestyniad ar ben y droed. Daliwch bob ymestyniad am 10-15 eiliad ac ymlacio. Ailadroddwch 3 gwaith.

Ffot – esgyrn yn y droed: DataBase Center for Life Science (DBCLS), CC BY 4.0, via Wikimedia Commons

If you have a problem which does not improve as you would expect with self-care, you should contact a healthcare professional for advice. This may be your GP, Pharmacist, NHS Podiatry Service or a Private Podiatrist. 

Please make sure your Podiatrist is registered with the Health and Care Professions Council and look out for the letters HCPC after their name. 

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content