Canllaw i Ddefnyddio Mewnwadnau
Ar ôl trafod â’ch clinigydd, efallai y bydd eich cynllun gofal yn cynnwys defnyddio orthoses (mewnwadnau) sydd naill ai ar gael yn fasnachol neu’n cael eu creu’n ofalus ar gyfer eich anghenion unigol chi.

Mewnwadnau wedi’u teilwra
Mae’r dyluniad yn dibynnu’n fawr ar eich lefel gweithgarwch, pwysau, esgidiau, patrwm cerdded a’r broblem â’ch traed.
Yn gyffredinol, mae mewnwadnau wedi’u teilwra yn fwy trwchus na’r rhai sydd ar gael dros y cownter ac mae amser aros ar eu cyfer, gan eu bod yn cael eu cynhyrchu o ddeunyddiau crai.
Beth ddylwn i ei wneud os oes gennyf boen newydd?
Os byddwch chi’n datblygu symptomau newydd neu ychwanegol, fel dolur a phoen, pothelli neu ardaloedd coch oherwydd rhwbio, dylech chi drafod hyn â’ch clinigydd yn yr apwyntiad nesaf. Gallwch chi barhau i ddefnyddio’r orthoses os yw’r symptomau’n rhai ysgafn.
Fodd bynnag, os yw eich symptomau newydd yn wanychol, dylech roi’r gorau i ddefnyddio’r mewnwadnau a chysylltu â’ch clinigydd.
Beth ddylwn i ei wneud os nad yw fy orthoses yn ffitio?
- Oherwydd yr amrywiad mewn siâp a maint orthoses ac esgidiau, yn aml, nid ydynt yn cyd-fynd â’i gilydd. Er y bydd eich clinigydd yn gwneud pob ymdrech i sicrhau eu bod yn ffitio’n gywir, efallai y bydd angen i chi eu trimio gartref.
- I ddechrau, edrychwch i weld a oes mewnosodiad yn yr esgid y gallwch ei dynnu, gan mai dyma’r cwbl sydd angen ei wneud i ffitio mewnwadnau, fel arfer.
- Y ffordd orau i wneud hyn yw tynnu’r mewnosodiad o’r esgid, ei osod ar ben eich mewnwadn newydd a thorri unrhyw ran sy’n weddill.
A allaf gael fwy nag un pâr o fewnwadnau wedi’u teilwra?
- Yn aml, mae’r rhan fwyaf o gyflyrau angen un pâr o fewnwadnau dros dro i helpu i’w datrys.
- Os yw’r broblem â’r traed yn ymwneud â salwch cronig a bod angen dau bâr i’w defnyddio am gyfnod hir, bydd ail bâr yn cael ei roi pan fyddwn yn gwybod bod y pâr cyntaf yn gweithio.
A allaf eu defnyddio ar gyfer chwaraeon?
Weithiau, bydd angen orthoses ar gyfer gweithgaredd penodol yn unig, fel rhedeg. Os ydych wedi cael eich cyfarwyddo i wneud hyn gan glinigydd, sicrhewch eich bod yn dod i arfer â’ch orthoses yn araf cyn dechrau gweithgareddau llawn.
Mewnwadnau dros y cownter
Fel arfer, dyma’r driniaeth gyntaf ar gyfer cyflyrau’r traed y gellir eu hadfer pan fydd mecaneg eich traed yn gymharol normal ond bod angen lleihau rhywfaint o straen.
Fel arfer, mae mewnwadnau dros y cownter ar gael ynghynt o lawer ac yn llai trwchus, gan olygu eu bod yn ffitio ystod ehangach o esgidiau.
Mae’r enghreifftiau canlynol yn dangos math ac ansawdd y cynnyrch y gallech chi fod eisiau eu copïo. Nid ydym yn cefnogi unrhyw frand.
- Express Insoles – Mewnwadnau hanner hyd, dwysedd isel sy’n berffaith ar gyfer rhoi cymorth ysgafn a rhywfaint o glustogi yn y sawdl. Cliciwch yma i edrych ar-lein.
- Pro 11 Insoles – Mewnwadnau hyd llawn a dwysedd deuol sy’n berffaith i bobl egnïol. Yn ddefnyddiol ar gyfer cyflyrau sy’n effeithio ar ganol a blaen y troed. Cliciwch yma i edrych ar-lein.
Beth ddylwn i ei wneud os oes gennyf boen newydd?
Os byddwch chi’n datblygu symptomau newydd neu ychwanegol, fel dolur a phoen, pothelli neu ardaloedd coch oherwydd rhwbio, dylech chi drafod hyn â’ch clinigydd yn yr apwyntiad nesaf. Gallwch chi barhau i ddefnyddio’r orthoses os yw’r symptomau’n rhai ysgafn.
Fodd bynnag, os yw’ch symptomau newydd yn wanychol, dylech roi’r gorau i ddefnyddio’r mewnwadnau a chysylltu â’ch clinigydd.
Esgidiau sy’n addas i’w defnyddio â mewnwadnau
Yn gyffredinol, dylai esgidiau gynnwys y nodweddion canlynol i fod yn addas ar gyfer orthoses:
- Ffasnin ar y rhan uchaf, fel careiau neu strapiau Velcro.
- Sodlau cadarn ac isel – osgowch sodlau cul, taprog neu rai sy’n uwch na modfedd a hanner.
- Blaen esgid crwn, llydan sy’n addas ar gyfer blaenau traed o siapiau amrywiol.
- Digon o ddyfnder i alluogi’r troed i ffitio’n dda y tu mewn i’r esgid. Yn ddelfrydol, mae esgid â mewnosodiad y gellir ei dynnu yn helpu o ran ffitio.
- Gwadnau cadarn sy’n helpu cynnal y mewnwadn.
Defnyddio eich mewnwadnau
Gall gymryd hyd at bythefnos i ddod i’r arfer â mewnwadnau. Gall rhywfaint o boen yn y coesau a’r traed fod yn normal wrth eu defnyddio am y tro cyntaf a dylai hyn leddfu’n raddol. Os byddwch yn eu gwisgo drwy’r dydd yn syth, efallai y byddwch yn datblygu poen neu ddolur na fyddech yn eu cael pe byddech yn eu defnyddio’n raddol.
Fel canllaw, dechreuwch drwy eu gwisgo am ryw awr ar y diwrnod cyntaf. Os na fydd gennych unrhyw boen neu ddolur gwanychol wedi hynny, gwisgwch nhw am awr ychwanegol y diwrnod canlynol. Daliwch ati i ychwanegu awr bob dydd nes i chi allu eu defnyddio drwy’r dydd, sef ymhen tua 10-14 diwrnod.
Ar ôl hyn, dylech wisgo’r ortheses drwy’r dydd, bob dydd drwy eu symud i esgidiau yn ôl yr angen. Os byddwch yn rhoi’r gorau i’w defnyddio am gyfnod maith, efallai y daw eich symptomau yn eu hôl. Os byddwch yn rhoi’r gorau i’w defnyddio ond yna mae eu hangen arnoch eto, bydd angen i chi ddod i’r arfer â nhw’n raddol eto.
Edrych ar ôl eich mewnwadnau
- Glanhewch yr orthoses bob mis â chlwtyn llaith cynnes a sebon a gadewch iddynt sychu’n naturiol dros nos.
- Peidiwch â’u gwlychu mewn unrhyw doddiant, gan gynnwys dŵr, gan y bydd hyn yn difrodi’r deunyddiau.
- Gwisgwch hosanau neu deits glân bob dydd.
- Bydd gwisgo mewnwadnau yn droednoeth yn difrodi’r deunyddiau ac yn lleihau eu hoes.
Peidiwch â pharhau i ddefnyddio’ch mewnwadnau os bydd eich symptomau’n gwaethygu.
Dewch â’ch orthoses gyda chi i bob apwyntiad Podiatreg.

Hefyd yn yr adran hon
Os oes gennych chi broblem sydd ddim yn gwella fel y byddech yn ei ddisgwyl gyda hunanofal, cysylltwch â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol i gael cyngor. Gall fod yn feddyg teulu, fferyllydd, gwasanaeth podiatreg y GIG neu bodiatregydd preifat.
Gwnewch yn siŵr bod eich podiatregydd wedi’i gofrestru gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal ac edrychwch am y llythrennau HCPC ar ôl ei enw.