Technegau Lasio
Mae gwisgo esgidiau yn gallu bod yn anghyfforddus os oes gennych chi gyflwr traed. Gall defnyddio technegau lasio penodol leddfu’r anghysur.

Bwâu Uchel, Lympiau a Chwyddau
Os byddwch chi’n teimlo poen ar ben eich troed neu os oes gennych chi lwmp neu chwydd sy’n boenus oherwydd pwysau eich esgid, gall y dechneg lasio hon eich helpu.
- Dechreuwch ar y gwaelod a rhowch y lasys drwy’r tyllau gyda phatrwm cris-groes.
- Rhowch y lasys drwy’r ochr yn y fan lle rydych chi’n profi pwysau neu lle mae’r lwmp neu’r chwydd.
- Daliwch i roi’r lasys drwy’r tyllau fel arfer a’u clymu ar y top.
Esgidiau’n teimlo’n rhy dynn
Os yw eich esgidiau’n teimlo’n rhy dynn, clymwch eich lasys yn syth ar draws er mwyn i’r lasys fod yn gyfartal ac yn fwy cyffyrddus.
- Caewch y lasys yn gyfochrog, gan ddechrau o’r gwaelod.
- Rhowch y lasys drwy waelod y tyllau ac am yn ail.
- Clymwch y lasys fel arfer ar y top.
Sodlau’n Llithro
Gall y dechneg lasio hon helpu os byddwch chi’n teimlo bod y droed yn llithro o’r esgid wrth y sawdl. Gall hyn ddigwydd os byddwch yn defnyddio mewnwadnau neu os oes gennych chi sawdl gul.
- Gan ddechrau o’r lasyn gwaelod, caewch lasys yr esgidiau fel y byddwch yn arfer ei wneud tan yr ail dwll cyn y twll olaf.
- Yna rhowch y lasys yn syth i mewn i’r twll uchaf.
- Croeswch y lasys fel arfer a’u rhoi drwy’r ddolen ar yr ochr arall.
- Clymwch yr esgid fel y byddech chi’n ei wneud fel arfer.
Poen yn y Bysedd Traed neu Ewinedd Duon
Os byddwch chi’n teimlo poen neu os oes gennych chi ewinedd sy’n troi’n ddu yn aml, gall y dechneg lasio hon helpu.
- Dechreuwch ar y gwaelod a chaewch y lasys o’r bawd troed i’r twll uchaf ar yr ochr arall.
- Rhowch yr ochr arall drwyddo’n lletraws ac yna’n gyfochrog drwy’r tyllau.
- Ailadroddwch yr holl ffordd i fyny’r esgid a chlymwch fel arfer.
Blaendroed Lydan
Os yw eich esgidiau’n teimlo ychydig yn rhy dynn neu os ydych chi’n dioddef o boen ym mlaen y droed, efallai y bydd y dechneg lasio hon yn fuddiol.
- Dechreuwch ar y gwaelod a rhowch y lasys drwy’r tyllau ar yr ochr.
- O ganol y traed ymlaen gallwch ddechrau lasio cris-groes.
- Clymwch fel arfer.
- Gallwch hefyd beidio rhoi’r lasys drwy’r tyllau gwaelod a dechrau lasio yn uwch i fyny’r esgid.
