Cadw Fi'n Iach - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Poen yn y Pigwrn

Mae llawer o bethau yn gallu achosi poen yn y pigwrn a nifer o bethau y gallwch chi wneud eich hun i helpu.

  • Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gorffwys a chodi’ch pigwrn pan ydych chi’n gallu
  • Rhowch becyn iâ (neu becyn o bys wedi rhewi) mewn tywel ar eich cymal am hyd at 20 munud bob dwy i dair awr
  • Gwisgwch esgidiau llydan, cyfforddus, gyda sodlau isel sy’n cynnal y droed
  • Defnyddiwch fewnwadnau neu badiau sawdl yn eich esgidiau
  • Lapiwch rwymyn o amgylch eich pigwrn i’w gynnal
  • Gwnewch ymarferion ysgafn rheolaidd a daliwch ati i symud
  • Defnyddiwch ‘gel’ lleddfu poen neu gymryd eich lladdwyr poen arferol
  • Colli pwysau
A diagram of the ankle joint. Arrows pointing to the bones and ligaments in the foot and ankle.

Dylech chi ffonio 111 ar frys os ydych chi wedi cael anaf neu boen difrifol sy’n dechrau’n sydyn A HEFYD

  • Os clywsoch chi sŵn torri, cracio neu bopio pan ddigwyddodd
  • Os dydych chi ddim yn gallu sefyll na cherdded
  • Os yw eich troed neu eich coes wedi newid siâp

Peidiwch â:

  • Gwisgo sodlau uchel, esgidiau heb lasys nac esgidiau sydd ddim yn cynnal y traed
  • Sefyll na cherdded am gyfnodau hir nac ar dir anwastad
  • Cymryd Ibuprofen am y 48 awr cyntaf ar ôl unrhyw anaf

Codiadau Croth y Goes

Feet flat on floor and then raised up on toes

  • Rhowch eich traed yn wastad ar y llawr a chodwch ar flaenau eich traed.
  • Sefwch ar arwyneb gwastad gyda’ch traed tua chwe modfedd ar wahân.
  • Daliwch ar arwyneb sefydlog i gadw cydbwysedd.
  • Codwch yn araf ar flaenau bysedd y traed, gan gymryd tair eiliad i godi a thair eiliad i fynd i lawr.
  • Gwnewch hyn 20 gwaith, dair gwaith y dydd.

Os oes gennych chi broblem sydd ddim yn gwella fel y byddech yn ei ddisgwyl gyda hunanofal, cysylltwch â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol i gael cyngor. Gall fod yn feddyg teulu, fferyllydd, gwasanaeth podiatreg y GIG neu bodiatregydd preifat.

Gwnewch yn siŵr bod eich podiatregydd wedi’i gofrestru gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal ac edrychwch am y llythrennau HCPC ar ôl ei enw.

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content