Osteoarthritis y Droed
Mae osteoarthritis yn gyflwr sy’n achosi i gymalau fynd yn boenus ac yn anystwyth. Dyma’r math mwyaf cyffredin o arthritis yn y DU ac mae’n cael ei alw’n aml yn arthritis ‘traul’. Bydd y rhan fwyaf o bobl yn teimlo rhywfaint o boen yn y cymalau sy’n gysylltiedig ag Osteoarthritis fel rhan o’r newidiadau arferol sy’n gysylltiedig â mynd yn hŷn.
Mae osteoarthritis yn achosi i’r cartilag amddiffynnol ar ben eich esgyrn dreulio, gan beri poen, chwyddo a phroblemau wrth symud y cymal.
Gall effeithio ar unrhyw un o’r 33 cymal yn y droed ond fel arfer mae’n effeithio ar y rhai sydd ar draws rhan uchaf cymal canol y droed a’r bawd (Hallux Limitus). Mae’r cymalau hyn yn dueddol o dreulio a rhwygo oherwydd pwysau wrth gerdded a gallant waethygu o ganlyniad i gyflyrau traed eraill.
Prif symptomau osteoarthritis y droed yw:
- Poen yn y cymalau ac anystwythder
- Problemau wrth symud y cymal a llai o hyblygrwydd
- Chwydd a theimlo’n ddolurus
- Sŵn clecian wrth symud y cymalau
Ni wyddwn yr union achos ond credir bod sawl peth yn cynyddu eich risg o ddatblygu osteoarthritis, gan gynnwys:
- Anaf i’r cymal – gorddefnyddio eich cymal pan nad yw wedi cael digon o amser i wella ar ôl anaf neu lawdriniaeth
- Oedran – mae eich risg o ddatblygu’r cyflwr yn cynyddu wrth i chi fynd yn hŷn
- Etifeddol – gall osteoarthritis redeg mewn teuluoedd
- Gordewdra – mae bod dros bwysau yn rhoi gormod o straen ar eich cymalau
- Rhyw – mae osteoarthritis yn fwy cyffredin ymhlith merched na dynion.
Mae osteoarthritis yn gyflwr hirdymor na ellir ei wella ond nid yw o reidrwydd yn gwaethygu dros amser ac weithiau gall eich symptomau wella’n raddol.
Sut i leddfu osteoarthritis y droed?
Rydym yn argymell nifer o driniaethau i’ch helpu i leddfu symptomau:
- Gwnewch ymarfer corff yn rheolaidd er mwyn symud y corff.
Edrychwch ar y syniadau ynghylch sut i wneud ymarfer corff a sut i wella eich cryfder a’ch stamina yma. - Colli pwysau
Os ydych chi dros eich pwysau delfrydol, ystyriwch golli pwysau gan fod hynny’n lleihau’r straen ar eich cymalau yn sylweddol. Mae ein deietegwyr wedi dod â rhai fideos, adnoddau a dolenni defnyddiol ynghyd. Cliciwch yma i ddarllen pa opsiynau sydd ar gael i chi a phenderfynu beth fyddai’n eich siwtio orau. - Defnyddiwch esgidiau cadarn
- Defnyddiwch fewnwadnau
Os yw eich symptomau’n fwy difrifol, efallai y bydd angen triniaethau neu lawdriniaeth arnoch. Dim ond ychydig o achosion sydd angen llawdriniaeth ar gyfer Osteoarthritis, a hynny pan nad yw triniaethau eraill wedi bod yn effeithiol neu pan fo un o’r cymalau wedi’i ddifrodi’n ddifrifol.
Esgidiau cadarn yw un o’r pethau pwysicaf er mwyn gofalu am gymalau eich traed. Gwnewch yn siŵr fod gan eich esgidiau wadnau cadarn a lasys, strapiau neu felcro i gau’r esgid.
Gall orthoteg (mewnwadnau) helpu i leihau’r straen ar eich cymalau yn ystod eich gweithgareddau dyddiol.
Cofiwch ddefnyddio mewnwadnau yn raddol dros gyfnod o wythnos a rhoi’r gorau i’w defnyddio os oes gennych boenau newydd.
Peidiwch â dal i ddefnyddio mewnwadnau os yw eich symptomau’n gwaethygu.
Dyma rai mewnwadnau a allai fod o fudd i’ch cyflwr (dydyn ni ddim yn cymeradwyo unrhyw frand na gwefan):
- Mewnwadnau Orthotig Hyd Llawn gyda Chynalyddion Bwa, Metatarsol a Sodlau Clustog
- Express Orthotics, Mewnwadnau Dwysedd Cadarn Hyd 3/4
Os oes gennych chi broblem sydd ddim yn gwella fel y byddech yn ei ddisgwyl gyda hunanofal, cysylltwch â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol i gael cyngor. Gall fod yn feddyg teulu, fferyllydd, gwasanaeth podiatreg y GIG neu bodiatregydd preifat.
Gwnewch yn siŵr bod eich Podiatregydd wedi’i gofrestru gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal ac edrychwch am y llythrennau HCPC ar ôl ei enw.