Cyrn Meddal
Croen trwchus rhwng y bysedd traed yw cyrn meddal.
Maen nhw fel rwber ac yn lliw melyn neu wyn. Maen nhw’n gallu bod yn boenus iawn.
Mae Cyrn Meddal fel arfer yn digwydd pan fydd y bysedd traed yn rhwbio yn erbyn ei gilydd. Mae’r cynhesrwydd a’r lleithder rhwng y bysedd traed yn eu gwneud yn feddal.
Mae gwisgo esgidiau sy’n gwasgu’r bysedd traed a pheidio â sychu rhwng y bysedd traed yn iawn ar ôl i chi eu golchi yn gallu gwneud pethau’n waeth.
Mae gwahanu’r bysedd traed gyda gwahanwyr y gallwch chi eu prynu o’r archfarchnad, fferyllydd neu’r rhyngrwyd yn gallu helpu. Gallwch roi gwirod llawfeddygol (‘surgical spirit’ – ar gael gan y fferyllydd) ar y corn i’w helpu i’w sychu.
Os yw’r corn yn dal yn boenus, efallai y bydd angen i chi weld Podiatrydd i’w dynnu.
Mae’r corn yn gallu dod yn ôl ar ôl triniaeth os nad ydych chi’n cadw’r bysedd traed ar wahân neu wisgo esgidiau call.
Llun: Marionette Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0, via Wikimedia Commons

Hefyd yn yr adran hon
Os oes gennych chi broblem sydd ddim yn gwella fel y byddech yn ei ddisgwyl gyda hunanofal, cysylltwch â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol i gael cyngor. Gall fod yn feddyg teulu, fferyllydd, gwasanaeth podiatreg y GIG neu bodiatregydd preifat.
Gwnewch yn siŵr bod eich podiatregydd wedi’i gofrestru gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal ac edrychwch am y llythrennau HCPC ar ôl ei enw.