Difrod i’r Nerfau yn eich Traed
Mae lefelau uchel o HbA1c (glwcos y gwaed) yn achosi difrod i’r nerfau yn y traed a’r coesau. Yr enw ar y difrod hwn i’r nerfau yw Niwropathi Perifferol.
Gall Niwropathi Perifferol arwain at golli teimlad neu newid i’r teimlad yn eich traed, sychder a newid i siâp eich traed.

Arwyddion o Niwropathi Perifferol
- Oerni
- Merwindod
- Gorsensitifrwydd
- Teimlad o losgi
- Poen pigo treiddgar
- Colli teimlad
- Fferdod
Yn aml, mae pobl yn disgrifio colli teimlad, fferdod, poen pigo treiddgar, teimlad o losgi, merwindod, oerni neu orsensitifrwydd lle mae hyd yn oed cyffyrddiad ysgafn yn boenus. Gall y teimladau hyn wella drwy reoli glwcos gwaed yn dda.
Y broblem â cholli teimlad yw efallai na fyddwch yn teimlo pan fyddwch yn difrodi eich troed. Efallai y bydd gennych friw neu bothell nad ydych chi’n ymwybodol ohono/ohoni, a all fynd yn heintus os na fyddwch yn gofalu amdano/amdani.
Wedi i chi golli teimlad, ni fydd y teimlad hwnnw’n dod yn ei ôl. Dyna pam mae’n bwysig iawn eich bod yn gwirio’ch traed yn ddyddiol neu’n amlach os ydych chi’n gwneud mwy o gerdded, yn gwisgo pâr o esgidiau gwahanol, ar wyliau neu os yw eich traed wedi chwyddo.
