Diabetes a’r Traed
Gellir cyfeirio at ddiabetes fel clefyd cronig sydd wedi’i nodweddu gan lefelau uchel o siwgr (glwcos) yn y gwaed.
Mae nifer o wahanol fathau o ddiabetes – diabetes Math 1 a Math 2 gan amlaf – a nifer o wahanol resymau pam y gall rhywun gael diabetes. Does dim ots pa fath sydd gennych o ran clefyd traed diabetig. Os yw glwcos y gwaed (siwgr) yn uchel, mae’r effeithiau ar y traed yr un fath.
Rheoli Glwcos y Gwaed yn Dda
O ran clefyd traed diabetig, nid oes ots pa fath o ddiabetes sydd gennych. Os yw’r glwcos (siwgr) yn eich gwaed yn uchel, mae’r effeithiau ar eich traed yr un fath.
Bydd y tîm Diabetes yn mesur faint o glwcos sydd yn eich gwaed yn rheolaidd gan ddefnyddio prawf o’r enw HbA1c. Bydd hyn yn rhoi syniad i chi o beth yw lefel gyfartalog y glwcos yn eich gwaed dros gyfnod o 3 mis. HbA1c arferol yw 48mmol/mol (6.5%).
Mae canlyniadau eich HbA1c yn caniatáu i’r tîm Diabetes drafod newidiadau i’ch gofal a’ch meddyginiaeth.
Gall eich meddyg teulu, fferyllydd neu nyrs practis eich cynorthwyo i wneud newidiadau i wella’r lefelau glwcos yn eich gwaed. Efallai y cewch eich atgyfeirio i feddyg sy’n arbenigo mewn diabetes, dietegydd ar gyfer cyngor ar eich diet neu i ddosbarthiadau ymarfer corff hefyd.
Cliciwch yma i gael cyngor ac adnoddau gan y Dietegwyr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
Cymhlethdodau traed a diabetes
- Mae rheolaeth glwcos gwaed gwael yn gallu niweidio’r pibellau gwaed, y cylchrediad a’r nerfau yn eich traed a’ch coesau.
- Mae’r difrod hwn yn gallu arwain at wlserau neu glwyfau traed a all heintio, arhosiad yn yr ysbyty neu’r posibiliad o orfod torri aelod i ffwrdd.
- Mae lefelau glwcos gwaed uchel (HbAlc) yn gallu cynyddu’r risg o haint sy’n arafu gwellhad clwyfau hefyd.

Cymhlethdodau Cyffredin yn gysylltiedig â’r Traed i Bobl sydd â Glwcos Uchel yn y Gwaed yn Barhaus
Cylchrediad Gwael
Clefyd Rhydwelïol Perifferol (PAD)
Difrod i'r Nerfau
Niwropathi Perifferol
Pwysigrwydd gofal traed rheolaidd
CHI yw’r person gorau i archwilio eich traed bob dydd, gan edrych am unrhyw newidiadau yn y croen, toriadau neu grafiadau. Os na allwch chi gyrraedd neu weld eich traed, gofynnwch i rywun o’r teulu neu eich gofalwyr am gymorth.
Rhowch eich traed mewn powlennaid o ddŵr. Chwiliwch a oes newid lliw, toriadau croen, cyrn neu galedion ar eich traed bob dydd.
- Golchwch eich traed bob dydd a gwneud yn siŵr eich bod yn sychu rhwng y bysedd yn drylwyr.
- Defnyddiwch eli traed bob dydd. Peidiwch â rhoi eli rhwng y bysedd traed. Gallwch brynu eli traed yn eich fferyllfa neu archfarchnad leol – yn ddelfrydol dylai gynnwys UREA.
- Yn hytrach na thorri eich ewinedd, ffeiliwch nhw bob wythnos. Mae ffeilio yn ffordd wych o reoli eich ewinedd heb boeni am wneud niwed i’r croen o amgylch yr ewinedd. Defnyddiwch fwrdd emeri neu ffeil fetel sydd ar gael mewn fferyllfeydd.
- Gwisgwch esgidiau sy’n ffitio’n dda, gyda ffitiad llydan a lle dwfn a chrwn i’r bysedd traed, a lasys, felcro neu strap i’w cau.
Peidiwch â gwlychu’ch traed oherwydd mae’n gallu achosi i’r croen fynd yn soeglyd, brau ac yn fwy agored i niwed.
- Peidiwch â defnyddio rasel na phlastrau cyrn sy’n gallu achosi difrod i’r croen ac arwain at haint.
- Peidiwch â defnyddio ymyl miniog siswrn i lanhau ochrau’r ewinedd. Mae rhai pobl yn hoffi defnyddio brwsh ewinedd neu hen frwsh dannedd i wneud hyn.
- Peidiwch â cherdded yn droednoeth. Diogelwch eich traed rhag unrhyw wrthrychau miniog drwy wisgo sliperi neu esgidiau.
- Peidiwch â rhoi eich troed ar reiddiadur poeth na photel ddŵr poeth.
Dylai pob claf sy’n byw gyda diabetes gael archwiliad traed blynyddol.
Fel arfer, mae hyn yn cael ei wneud gan eich nyrs practis neu bodiatregydd. Bydd yr archwiliad blynyddol yn cynnwys:
- Gwirio siâp eich troed
- Gwirio cyflwr y croen a’r ewinedd
- Gwirio’r cylchrediad a’r teimlad
Deall eich dosbarthiad risg
Ar ôl yr archwiliad traed diabetes blynyddol, byddwch yn cael dosbarthiad risg. Dyma eich lefel risg o broblemau a allai ddigwydd. Os oes gennych ddosbarthiad risg ‘gweithredol’, mae’n golygu bod gennych wlser ar eich troed a byddwch yn cael eich cyfeirio ar frys at yr adran bodiatreg.
Clwyfau’r Traed
Cliciwch isod i gael mwy o wybodaeth am ein Clinig Clwyfau Podiatreg
PWYSIG – Os oes gennych doriad yn y croen neu redlif (yn diferu) ar eich sanau, neu os yw eich troed yn goch, yn boeth neu’n chwyddedig, cysylltwch â’r adran bodiatreg i gael atgyfeiriad BRYS a/neu apwyntiad, neu eich meddyg teulu, nyrs practis, fferyllydd neu bodiatregydd preifat (cofrestredig HCPC).
GWEITHREDWCH NAWR!
Gweithredwch nawr os byddwch yn profi unrhyw un o’r canlynol:

Damwain

Newid

Tymheredd

Poen newydd

Diferu

Clwyf
Mwy o gefnogaeth

Dyma nifer o fideos am fyw gyda diabetes, gan gynnwys sut i ofalu am eich traed.
Cafodd sesiynau a llyfryn Iechyd Traed Diabetes Cymru eu datblygu ar gyfer cleifion Caerdydd a’r Fro i roi gwybodaeth
Click here to access the free STANCE pack.

Hefyd yn yr adran hon
Gwybodaeth gyswllt
Canolfan Rheoli Cleifion Podiatreg,
Gwasanaethau Podiatreg,
Ysbyty Brenhinol Caerdydd,
Heol Casnewydd,
Caerdydd
CF24 0SZ
Ar gyfer pob ymholiad, ffoniwch 02920 335135 neu anfonwch neges e-bost at Podcav@wales.nhs.uk