Cadw Fi'n Iach - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Eich rôl yn iechyd eich traed

Ysgogiad Cleifion

Dim ond rhan o’ch taith at iechyd da yw’r gofal rydych chi’n ei gael mewn lle gofal iechyd. Mae’r hyn rydych chi’n ei wneud drosoch eich hun yn chwarae rhan bwysig iawn wrth gadw’n iach.   

Yn y proffesiwn meddygol, rydym yn disgrifio hyn yn ‘Ysgogiad Cleifion’.  

Mae Ysgogiad Cleifion yn disgrifio gwybodaeth, sgiliau a hyder unigolyn wrth reoli ei iechyd ai ofal ei hun.

Mae eich ysgogiad yn gallu eich helpu i wneud dewisiadau iechyd a ffordd o fyw positif. 

Os ydych chi’n deall y ffordd orau o ofalu amdanoch chi eich hun, rydych chi’n fwy tebygol o fyw bywyd iach a rheoli eich cyflyrau iechyd hirdymor yn well. 

Fel rhan o’ch apwyntiad Podiatreg, efallai byddwn yn gofyn i chi gwblhau arolwg byr.  Bydd hyn yn ein helpu i ddeall y cymorth y gallai fod ei angen arnoch i reoli eich iechyd traed. 

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content