COVID Hir (syndrom Ôl-COVID-19)
Nid yw’n anarferol i bobl brofi symptomau Covid-19 am gyfnodau amrywiol o amser yn dibynnu ar ddifrifoldeb y clwyf ac unrhyw cyflyrau iechyd parhaus.
Disgrifir Long Covid fel a ganlyn: Arwyddion a symptomau sy’n datblygu yn ystod neu ar ôl haint sy’n gyson â COVID-19, sy’n parhau am fwy na 12 wythnos ac nad ydynt yn cael eu hesbonio gan ddiagnosis amgen. Fel arfer, mae’n cyflwyno fel clystyrau o symptomau, sy’n aml yn gorgyffwrdd, sy’n gallu amrywio a newid dros amser ac sy’n gallu effeithio ar unrhyw system yn y corff.
(Cyfeirnod – Canllawiau NICE 2020)
Nid dim ond pobl sy’n cymryd amser i wella ar ôl arhosiad mewn gofal dwys yw COVID hir. Gall hyd yn oed pobl â heintiau cymharol ysgafn gael problemau iechyd parhaol a difrifol a chymryd amser i wella.
Os ydych chi wedi cael diagnosis o COVID Hir, neu’n meddwl bod gennych chi COVID Hir, mae’n bwysig gofyn am gyngor gan weithiwr iechyd proffesiynol cyn dechrau unrhyw therapi ymarfer corff graddedig neu cyn dychwelyd at unrhyw weithgaredd. Efallai bod gennych Post Exertional Malaise (anhwylder ôl-ymarfer) sydd hefyd yn cael ei alw’n Post Exertional Symptom Exacerbation (gwaethygu symptomau ar ôl ymarfer corff) fel symptom o COVID Hir.
Bryd hynny mae gweithgarwch corfforol, gwybyddol, emosiynol neu gymdeithasol yn gallu gwaethygu symptomau. Mae’r symptomau’n gallu gwaethygu ar unwaith neu 24-72 awr ar ôl y gweithgarwch.
Siaradwch â’ch meddyg teulu am gael eich cyfeirio at y Tîm Adfer COVID Hir.
Mae astudiaeth newydd sy’n archwilio effeithiolrwydd ymyrraeth COVID Hir a arweinir gan Therapi yn chwilio am bobl sy’n byw gyda’r cyflwr i gymryd rhan.
Adnoddau eraill yn yr adran hon
Ymunwch â'n Fforwm
Cyd-gynhyrchu
Gadewch i ni weithio gyda'n gilydd i ddatblygu ffyrdd o gefnogi pobl sydd â chyflyrau tymor hir yng Nghaerdydd a'r Fro.